Unigrwydd - Pecyn Ysgol Canfod ein cysylltiadau er mwyn teimlo’n llai unig

Mae canfod ein cysylltiadau â’n hunain, eraill, a’r byd o’n cwmpas, yn hanfodol i ddiogelu ein hiechyd meddwl a theimlo’n llai unig.

Unigrwydd yw’r teimlad a gawn pan fyddwn yn teimlo nad oes gennym y perthnasoedd ystyrlon yr ydym eu heisiau o’n cwmpas. Mae’n rhywbeth y gall pob un ohonom ei brofi o bryd i’w gilydd, trwy gydol ein bywydau, a bydd yn wahanol i bawb.

Canfu arolwg YouGov (2019) o bobl ifanc 13-19 oed, bod 69% ohonynt wedi teimlo’n unig “yn aml” neu “weithiau” yn ystod y pythefnos diwethaf, a bod 59% yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw un i siarad â nhw “yn aml” neu “weithiau”.

Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi pobl ifanc i gydnabod pryd maent yn teimlo’n unig, i ddeall eu meddyliau a’u teimladau, ac i adnabod y cysylltiadau cefnogol sydd ganddynt.

Mae Peer Education Project y Sefydliad Iechyd Meddwl yn brosiect ar gyfer ysgolion uwchradd sy'n rhoi'r adnoddau i ddisgyblion hŷn gyflwyno gwersi iechyd meddwl i ddisgyblion ieuengach.

Mae'r prosiect wedi gweithio â disgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd sy'n cymryd rhan i greu'r Pecyn Ysgol Unigrwydd: Canfod ein cysylltiadau er mwyn teimlo’n llai unig, sydd ar gael i bob ysgol ledled y DU.

Bydd y pecyn ysgol hwn yn darparu'r deunyddiau a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi disgyblion i ddeall beth yw unigrwydd, sut mae’n gwneud i ni deimlo, a lle i ddod o hyd i gymorth. Mae'r pecyn wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio mewn ysgolion uwchradd, ond mae'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ysgolion cynradd hefyd. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r pecyn yn cynnwys

  • Cynllun gwers gyda sleidiau PowerPoint a sgript, yn ogystal â thaflenni gwaith i gyd-fynd â nhw sydd â'r opsiwn am fwy o ymgysylltiad â disgyblion unigol ynghylch y pwnc
  • Cynllun gwasanaeth gyda sleidiau PowerPoint a sgript i gefnogi datblygiad dull gweithredu ysgol gyfan at unigrwydd ac iechyd meddwl
  • Canllawiau defnyddiol i ddisgyblion, staff ysgol, a rhieni/gofalwyr ynghylch deall beth yw unigrwydd, sut mae’n medru effeithio ar ein hiechyd meddwl, a sut gall plant a phobl ifanc ganfod cysylltiadau gyda’u hunain, eraill, a’r byd o’u cwmpas, er mwyn teimlo’n llai unig
  • Posteri i'w harddangos yn yr ysgol, i annog disgyblion i estyn allan am gefnogaeth pan fyddant yn teimlo'n unig

Cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc

The Mix - Elusen yn y DU sy’n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i bobl dan 25 oed. Gall pobl ifanc geisio cymorth gan y tîm hyfforddedig, un ai drwy ffonio, drwy sgwrsio ar y we, neu dros e-bost.

Shout 85258 - Gwasanaeth cymorth dros neges destun, cyfrinachol, 24/7, am ddim.

Y Samariaid - Elusen yn y DU sy’n cynnig cymorth ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn, am ddim. Ffoniwch 116 123 am ddim, neu anfonwch e-bost at  [email protected] .

Cymorth i staff ysgol

Cefnogaeth Addysg

Mae Education Support yn cynnig cymorth o ran iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff addysgu mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Ffoniwch 08000 562 561 am ddim er mwyn siarad â chwnselydd cymwys. Byddant yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol i chi yn uniongyrchol.

Cymorth i rieni a gofalwyr

Mae Llinell Gymorth a Gwasanaeth Gwe-sgwrs i Rieni Young Minds yn cynnig cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc.

Cofrestrwch ar gyfer ein pecyn

Mae'r pecyn hwn ar gael i bob ysgol yn rhad ac am ddim.

Byddem yn annog pob ysgol sy'n defnyddio'r pecyn hwn i gefnogi ein gwaith elusennol drwy wneud cyfraniad awgrymedig o £5.

Was this content useful?