Pecyn Ysgol Delwedd Corff: sut ydym yn meddwl ac yn teimlo ynghylch ein cyrff

Drwy ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddeall beth yw delwedd corff a sut mae'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant, gallwn eu cefnogi i gymryd camau i ddatblygu a chynnal delwedd corff dda ac amddiffyn eu hiechyd meddwl a llesiant. 

Yn 2019, gwnaethom gomisiynu arolwg YouGov ar draws y DU fel rhan o'n hadroddiad Body Image ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl1. Canfuom fod un mewn pump o oedolion (20%) yn teimlo cywilydd, ychydig dros draean (34%) yn teimlo'n drist neu'n isel, a 19% yn teimlo ffieidd-dod oherwydd eu delwedd corff yn y flwyddyn ddiwethaf. Canfuom hefyd fod 37% o bobl ifanc yn eu harddegau yn teimlo'n drist, a 31% yn teimlo cywilydd, mewn perthynas â'u delwedd corff. Roedd hyn yn dilyn ein canfyddiadau yn 2018, pan adnabu pryderon delwedd corff yn un o'r heriau mwyaf y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn y DU, ochr yn ochr â phryderon ynghylch 'diffyg cyfleoedd gwaith' a 'methu yn y system addysg'2

Mae Peer Education Project y Sefydliad Iechyd Meddwl yn brosiect ysgolion uwchradd sy'n rhoi'r adnoddau i ddisgyblion hŷn gyflwyno gwersi iechyd meddwl i ddisgyblion ieuengach. 

Mae'r prosiect wedi gweithio â disgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd sy'n cymryd rhan i greu'r Pecyn Ysgol Delwedd Corff: sut ydym yn meddwl ac yn teimlo ynghylch ein cyrff, sydd ar gael i bob ysgol ledled y DU. 

Bydd y pecyn ysgol hwn yn darparu'r deunyddiau a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi disgyblion i ddeall beth yw delwedd corff, beth sy'n effeithio ar ddelwedd corff, yr effaith mae'n gallu ei chael ar ein hiechyd meddwl a llesiant, a sut i ddatblygu a chynnal delwedd corff dda. Mae'r pecyn wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio mewn ysgolion uwchradd, ond mae'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ysgolion cynradd hefyd. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. 

Yn y pecyn, ceir: 

  • Cynllun gwers gyda sleidiau PowerPoint a sgript, yn ogystal â thaflenni gwaith i gyd-fynd â nhw sydd â'r opsiwn am fwy o ymgysylltiad â disgyblion unigol ynghylch y pwnc. 
  • Cynllun gwasanaeth gyda sleidiau PowerPoint a sgript i gefnogi datblygiad dull gweithredu ysgol gyfan at ddelwedd corff ac iechyd meddwl. 
  • Canllawiau defnyddiol i ddisgyblion, staff ysgol, a rhieni/gofalwyr ynghylch beth yw delwedd corff, pam mae delwedd corff dda yn bwysig i'n hiechyd meddwl a llesiant, awgrymiadau ardderchog ynghylch sut i ddatblygu a chynnal delwedd corff dda, yn ogystal ag adnoddau defnyddiol yn seiliedig ar y pwnc. 

Cofrestrwch ar gyfer ein pecyn 

Mae'r pecyn hwn ar gael i bob ysgol yn rhad ac am ddim. 

Byddem yn annog pob ysgol sy'n defnyddio'r pecyn hwn i gefnogi ein gwaith elusennol drwy wneud cyfraniad awgrymedig o £5.

Angen cefnogaeth? 

Samaritans: Os oes angen rhywun i siarad â nhw yna mae'r Samariaid ar gael ar 116 123 (DU) am ddim, 24/7. Maent yno i siarad â nhw, gwrando ac ni fyddant yn barnu nac yn dweud wrthych beth i'w wneud. 

Mind: Os ydych chi'n chwilio am gymorth proffesiynol yna gall Mind eich helpu gyda'u Infoline. Gallant ddod o hyd i wybodaeth i chi am ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Gallwch eu ffonio ar 0300 123 3393 (DU). 

BEAT – Eating Disorders: Os ydych am siarad â gweithiwr cymorth llinell gymorth anhwylder bwyta hyfforddedig, gallwch ffonio llinell gymorth Beat ar 0808 801 0711 (DU). 

SEED - Eating Disorders Support Services: Gan ddarparu cyngor a chymorth cyfrinachol annibynnol ac anfeirddol, gallwch gysylltu â nhw ar 01482 718130. 

 

References:

1 Y Sefydliad Iechyd Meddwl. (2019). Body Image report. Ar gael ar-lein: Body image report | Y Sefydliad Iechyd Meddwl
2 Y Sefydliad Iechyd Meddwl. (2018). Stress: Are we coping? Report. Ar gael ar-lein: Stress: Are we coping? | Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Was this content useful?