Ffoaduriaid a Phobl sy'n Ceisio Lloches

Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda phobl sy’n ceisio noddfa (ffoaduriaid a cheiswyr lloches) ers 2019. Gelwir ein holl brosiectau yn ‘Perthyn’. Rydyn ni nawr yn dechrau ar ein 3ydd prosiect gan adeiladu ar ein dysgu bob tro.

Mae gan bob un o’n prosiectau Perthyn nod cyffredinol o feithrin gallu hyderus gyda’n partneriaid fel y gallant hwythau yn eu tro gefnogi eu buddiolwyr gyda’u lles emosiynol. Mae hyn, er enghraifft, wedi cynnwys hyfforddiant i ddod yn arweinwyr grwpiau cymheiriaid trwy wella eu llythrennedd emosiynol a'u dealltwriaeth o'i gilydd. Fe ddefnyddion ni iaith fel arf i wneud hyn.

‘…doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n perthyn i (gwlad wreiddiol), dros ddeng mlynedd ar hugain, deng mlynedd ar hugain! Rwy’n teimlo fy mod yn perthyn yma...dwi’n teimlo mod i’n perthyn yma yng Nghaerdydd oherwydd rydw i, rydw i wrth fy modd yn byw yng Nghaerdydd…rwy’n teimlo’n llawer gwell ac … ein grŵp Perthyn, mae’n rhoi y teimlad hwn i mi’ (Arweinydd Cymheiriaid Perthyn)

‘Pan fyddwch chi’n helpu rhywun arall, rydych chi’n teimlo ei fod yn feddyginiaeth i chi’ch hun’ (Arweinydd Cymheiriaid Perthyn)

Roedd cam cyntaf Perthyn yn brosiect blwyddyn o hyd a ariannwyd gan y Dreth Tamponau drwy Mind ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Groes Goch Brydeinig yng Nghasnewydd. Bu’r ail gam, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda grwpiau yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, ac fe’i darparwyd mewn partneriaeth â REACH+.

Mae cam presennol y prosiect yn ymestyn dros Gymru gyfan ac mae’n defnyddio dull Partner Dysgu. Wedi’i ariannu gan Raglen Ymateb Covid y Sefydliad Iechyd Meddwl a Llywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio gyda Dinas Noddfa (City of Sanctuary), i adeiladu capasiti ar draws eu rhwydweithiau, gan rymuso’r rhai sy’n ceisio noddfa i hyrwyddo llesiant, i arwain grwpiau cymorth cymheiriaid, ac i ddylanwadu ar y Ffrwd Iechyd Dinas Noddfa (City of Sanctuary Health Stream) ehangach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, [email protected] .

Through this programme, we spoke with people seeking sanctuary about what well-being means for them

Read what they shared
Graphic of a mother, father and young child

Related content

Refugee programmes

Explore our programmes about refugees and helping their mental health.

Mental health resources for refugees and asylum seekers

Resources to assist refugees and asylum seekers with their mental health, including advice translated into other languages.

Voices of lived experience: The impact of seeking sanctuary on mental health and wellbeing

This report, produced in collaboration with City of Sanctuary as part of our Perthyn project, aims to contribute to a better understanding of the mental health and wellbeing of people seeking sanctuary. 

Was this content useful?