Prosiect Dad's and Football

Y Sefydliad Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Tadolaeth yn cynhyrchu’r canllaw ‘Dod yn Dad’ i gefnogi tadau newydd

Ychydig iawn o gymorth sydd ar gael i dadau newydd wrth iddynt wynebu’r heriau a ddaw yn sgil bod yn dad yn ôl adroddiad y prosiect Tadau a Phêl-droed, a gyhoeddir heddiw (Dydd Gwener 19 Tachwedd) i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dynion.

Crëwyd Tadau a Phêl-droed, prosiect 2 flynedd a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, er mwyn cefnogi tadau newydd mewn ymateb i’r ddarpariaeth annigonol sydd ar gael ar hyn o bryd.

I ddechrau, daethpwyd â'r tadau at ei gilydd trwy eu cariad at y gêm brydferth ac i chwarae pêl-droed 5 bob ochr - ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gemau pêl-droed oherwydd y pandemig a chawsant eu disodli'n gyflym gan sesiynau cymorth cymheiriaid ar-lein. Ymunodd tadau a chwaraewyr o Ddinas Caerdydd, gan gynnwys Will Vaulks (a oedd yn ddarpar dad ar y pryd), â'r grwpiau i drafod sut roedd y newid bywyd wedi effeithio arnyn nhw. Ymgynghorwyd hefyd â 91 o dadau ynghylch eu barn trwy arolwg ar-lein.

Er bod llawer o wybodaeth am y newidiadau a brofir gan Famau mewn perthynas â beichiogrwydd a genedigaeth o safbwynt iechyd meddwl a chorfforol, mae llawer llai o wybodaeth am yr effaith ar dadau a sut maen nhw’n ymdopi.

Beth oedd y Tadau’n ei feddwl o’r prosiect

Roedd recriwtio’n anodd. Gwnaethom ddefnyddio pob dull oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, roedd gennym aelodau angerddol a oedd yn dal i droi i fyny’n rheolaidd ar ôl iddynt ddechrau. Roedd y dynion yn aml yn siarad am faint roeddent yn mwynhau bod yn rhan o’r ‘prosiect Tadau a Phêl-droed’ a sut roedd y grwpiau cymorth cymheiriaid wedi eu helpu. Yn ystod y pêl-droed 5 bob ochr nododd sawl un bod ymarfer corff hefyd wedi eu helpu i leddfu tyndra a phryderon a’u bod yn gwerthfawrogi’r cyfeillgarwch a ddatblygodd gyda’r bonws o fuddion ffitrwydd. Roeddent hefyd yn cyfeirio at y tawelwch meddwl o fynychu grŵp ar gyfer dynion yn unig a’u bod yn gwybod y byddai eu barnau a’u profiadau yn cael eu cymryd o ddifrif.

Dads and Football graphic
Was this content useful?