Prosiectau Rhieni Sengl

Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhieni sengl ers blynyddoedd lawer ac wedi meithrin cryn arbenigedd gyda’n partneriaid. 

Nod ein gwaith bob amser yw magu hyder yn y rhai sy’n gweithio gyda rhieni, a’u lles emosiynol fel y gallant hwy yn eu tro helpu i wella’r cwlwm a’r ymlyniad gyda phlant eu buddiolwyr. 

Rydym hefyd yn annog y dysgu y gellir ei feithrin rhwng cymheiriaid ac yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o wneud hyn. 

Gweithdai Llesiant Rhieni Sengl

Mae’r Gweithdai Llesiant Rhieni Sengl yn cael eu harwain gan gymheiriaid sy’n rhieni sengl eu hunain. Eu nod yw cynyddu dealltwriaeth o sut deimlad yw bod ar eich pen eich hun a'r angen weithiau i ddod o hyd i bwerau goruwchddynol er mwyn cyrraedd diwedd y diwrnod.

Cysylltu’n Greadigol

Gan ddefnyddio dull Partner Dysgu, mae Cysylltu’n Greadigol yn canolbwyntio ar gryfhau’r berthynas rhwng rhieni sengl a’u plant trwy ddefnyddio’r celfyddydau.

Was this content useful?