Y Celfyddydau ac Iechyd Meddwl

Rydym yn datblygu llwyfan ar gyfer y celfyddydau ac iechyd meddwl yng Nghymru, tra’n gweithio fel Partneriaid Dysgu gyda sefydliadau i archwilio sut y gall y celfyddydau fod o fudd iddynt a’u heffaith ar iechyd meddwl. 

Ein digwyddiad blaenllaw yng Nghymru yw Gŵyl Gelfyddydau’r Rhuban Gwyrdd, (GGRhG) a lwyfannwyd gyntaf yn 2020 ac yna yn 2021 fel digwyddiad ar-lein yn ystod y pandemig. Disgwylir i’r ŵyl ddychwelyd yn ystod hydref 2022 gyda digwyddiadau byw, wyneb yn wyneb ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring. 

Mae GGRhG yn arddangos enghreifftiau o waith o ansawdd uchel ym maes y celfyddydau ac iechyd meddwl yng Nghymru, tra’n darparu gofod ar gyfer sgyrsiau a rhwydweithio pwysig. Mae GGRhG yn cynnig cyfleoedd i artistiaid arddangos yr hyn sy’n bwysig iddynt, a’u safbwynt ar iechyd meddwl, ynghyd â hyrwyddo gwaith gan sefydliadau celfyddydol sy’n arloesol ac sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. 

Mae GGRhG yn dangos sut y gall y celfyddydau wella dealltwriaeth o iechyd meddwl ac atal a lleddfu afiechyd meddwl. 

Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar iechyd meddwl dynion mewn lleoliad diwydiannol mawr yn Ne Cymru, a chyda choleg Addysg Bellach, gan weithio gyda staff a myfyrwyr.  

Was this content useful?