Sefyll Gyda’n Gilydd Cymru adroddiad

Mae ein gwerthusiad o brosiect Sefyll Gyda’n Gilydd Cymru, sy’n benllanw tair blynedd o waith, a addasodd i ateb her y pandemig, wedi’i ryddhau heddiw (dydd Mawrth 1 Mawrth) i nodi diwrnod arbennig iawn yng Nghymru, sef Dydd Gŵyl Dewi.

Wedi'i sefydlu gyda'r nod o leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cyfranogwyr a gwella eu lles emosiynol, hwylusodd y prosiect gysylltiadau rhwng tenantiaid trwy weithgarwch ystyrlon. Roedd y grŵp yn cynnig cefnogaeth cymheiriaid a mwy o ymgysylltiad cymunedol. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan gafodd mynediad i’r byd y tu allan a gweithgareddau o ddydd i ddydd eu hatal oherwydd y risg o Covid-19 a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil  - adeg pan oedd cyfranogwyr yn adrodd am ymdeimlad enfawr o golled, ond a oedd hefyd yn cynnig cyfle unigryw iddynt gysylltu â’i gilydd.

Standing together Cymru cover photo

Beth yw cefnogaeth cymheiriaid?

Mae cefnogaeth cymheiriaid yn golygu bod pobl yn rhannu gwybodaeth, profiad neu gymorth ymarferol â’i gilydd. Mae adolygiad mawr ar sail tystiolaeth, sy’n crynhoi tystiolaeth o fwy na 1,000 o astudiaethau, wedi dod i’r casgliad bod gan gefnogaeth cymheiriaid y potensial i wella profiad bywyd y rhai sy’n cael diagnosis o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol tymor hir.

Cynhaliwyd y prosiect, a ariannwyd gan y Loteri Fawr yng Nghymru, mewn partneriaeth â phedair cymdeithas dai ar draws De Ddwyrain Cymru: Cartrefi Melin, Derwen Cymru, United Welsh a Chartrefi Dinas Casnewydd. Roedd y rhain yn cynnwys 22 o gynlluniau tai, gan gefnogi’r 211 o denantiaid sy’n byw yno (mynychodd 195 o bobl wyneb yn wyneb gydag 16 yn parhau dros y ffôn/yn rhithiol pan oedd y cyfyngiadau ar eu hanterth).

Adeiladodd Sefyll Gyda’n Gilydd Cymru ar hanes balch y Sefydliad Iechyd Meddwl o hwyluso grwpiau cefnogaeth cymheiriaid yng Nghymru ers 2010. Mae’r Gwerthusiad Prosiect yn amlygu pwysigrwydd mynd i’r afael ag unigrwydd drwy feithrin cysylltiadau cymdeithasol. Addasodd y Tîm Grymuso a Bywyd Hwyrach yn y Sefydliad Iechyd Meddwl bob prosiect yn y pandemig o ‘wyneb yn wyneb’ i gynnal o bell, drwy’r post, ar y ffôn ac yn rhithiol. Mae ein prosiect presennol 'Picture This' yn darparu tabledi cyfrifiadurol a hyfforddiant wedi'i deilwra er mwyn cael pobl hŷn, a oedd wedi eu hallgáu'n ddigidol, ar-lein ac yn cysylltu'n rhithwir, gan ddefnyddio sesiynau rhithwir creadigol i fynd i'r afael ag unigrwydd.

Beth yw’r Effaith ar Bobl yn Hwyrach mewn Bywyd?  

Mae gan Gymru boblogaeth fawr o bobl hŷn sy’n tyfu – erbyn 2030, rhagwelir y bydd ychydig dros 1 miliwn o bobl hŷn yng Nghymru, sef 33% (bron i draean) o’r boblogaeth gyfan – gyda 45% ohonynt yn byw ar eu pen eu hunain. Mae llawer o bobl hŷn yn adrodd am deimladau lles is na'r gorau bosib. Mae’r angen am gysylltiad cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn byw bywyd iach a chynnal gwytnwch, ac un ffordd y gellir gwireddu hyn yw drwy ymgysylltu â’r gymuned.

Dangosodd gwerthusiad o’r prosiect, er bod heriau iechyd corfforol wedi cynyddu yn ystod oes y prosiect, bod lles wedi’i gynnal – camp sylweddol o ystyried yr hyn rydym yn ei wybod y mae pobl wedi’i ddioddef dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafodd y prosiect ei fesur yn erbyn mynegai Pum Llesiant Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a graddfa unigrwydd 3 eitem Prifysgol California (UCLA). Dangosodd y canlyniadau ostyngiad mewn iechyd cyffredinol, ond bod lles a theimladau cadarnhaol o gynhwysiant wedi'u cynnal.

Mental health in later life

As we get older, changes in our lives such as retirement, bereavement or physical illness can affect our mental health.

Find out more

Was this content useful?