Sefyll Gyda’n Gilydd Cymru: cefnogi iechyd meddwl a lles pobl hŷn trwy gynnal cysylltiadau cymunedol

1st Mar 2022
Mental health in later life
Programmes

Mae ein gwerthusiad o brosiect Sefyll Gyda’n Gilydd Cymru, sy’n benllanw tair blynedd o waith, a addasodd i ateb her y pandemig, wedi’i ryddhau heddiw (dydd Mawrth 1 Mawrth) i nodi diwrnod arbennig iawn yng Nghymru, sef Dydd Gŵyl Dewi.

Wedi'i sefydlu gyda'r nod o leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cyfranogwyr a gwella eu lles emosiynol, hwylusodd y prosiect gysylltiadau rhwng tenantiaid trwy weithgarwch ystyrlon. Roedd y grŵp yn cynnig cefnogaeth cymheiriaid a mwy o ymgysylltiad cymunedol. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan gafodd mynediad i’r byd y tu allan a gweithgareddau o ddydd i ddydd eu hatal oherwydd y risg o Covid-19 a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil  - adeg pan oedd cyfranogwyr yn adrodd am ymdeimlad enfawr o golled, ond a oedd hefyd yn cynnig cyfle unigryw iddynt gysylltu â’i gilydd.

Cynhaliwyd y prosiect, a ariannwyd gan y Loteri Fawr yng Nghymru, mewn partneriaeth â phedair cymdeithas dai ar draws De Ddwyrain Cymru: Cartrefi Melin, Derwen Cymru, United Welsh a Chartrefi Dinas Casnewydd. Roedd y rhain yn cynnwys 22 o gynlluniau tai, gan gefnogi’r 211 o denantiaid sy’n byw yno (mynychodd 195 o bobl wyneb yn wyneb gydag 16 yn parhau dros y ffôn/yn rhithiol pan oedd y cyfyngiadau ar eu hanterth).

Dywedodd Dr Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru: "Rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau o ddiddordeb i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran gwireddu ei blaenoriaeth Heneiddio’n Dda, ac y byddant yn dangos y gwerth, i Awdurdodau Lleol, o gomisiynu grwpiau cymorth cymheiriaid wrth ystyried anghenion pobl hŷn.

"Fe wnaethom groesawu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a gyhoeddwyd y llynedd (Hydref 2021) a gofynnwn i bobl hŷn gael eu cydnabod fel grŵp sy’n profi anghydraddoldeb. Hoffem weld eu hanghenion penodol yn cael eu diwallu yn strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru a’u hystyried pan gaiff y strategaeth bresennol ei hadolygu yn ddiweddarach eleni. Ymhlith y materion sy’n effeithio ar iechyd meddwl pobl hŷn mae allgáu digidol a llythrennedd digidol, tlodi sy’n gysylltiedig ag oedran, mynediad gwael at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a rhagfarn ar sail oed. Dylai mynd i’r afael â’r anghenion hyn drwy ddull atal trawslywodraethol fod yn fesur allweddol ar gyfer asesu llwyddiant y strategaeth iechyd meddwl nesaf."

 

Contact our media team

Press enquiries

Please note that these contact details are for media enquiries only.

If you are a journalist and have a media enquiry, please email  [email protected] . If your call is urgent, call 07702 873 939.

If your call is not answered immediately leave a message and we will get back to you as soon as possible. 

Unfortunately, we do not have the capacity to respond to student media requests but we hope the website is useful in helping with your studies.

Other enquiries

For emotional support, please contact Samaritans helpline on 116 123. For anyone seeking information on help and support in their area, contact Mind Infoline on 0300 123 3393 or text 86463.

Was this content useful?