Unigrwydd - Canllaw i Fyfyrwyr

Mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr 16 oed a hŷn, mae’n archwilio unigrwydd a’i gysylltiad ag iechyd meddwl, mae’n darparu awgrymiadau a syniadau am sut i gymryd rhan a chodi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau, yn yr ysgol, coleg neu brifysgol.

Unigrwydd yw’r teimlad negyddol a gawn pan mae yna wahaniaeth rhwng y perthnasoedd sydd gennym ag eraill a’r perthnasoedd yr ydym eu heisiau.

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn profi unigrwydd ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, ond mae yna ffactorau penodol sy’n gwneud rhai’n fwy agored iddo nag eraill.

Mae myfyrwyr llawn amser ymysg y rhai sydd fwyaf agored i deimlo’n unig, nododd 26% o fyfyrwyr eu bod wedi teimlo’n unig naill ai’n aml neu drwy gydol y pandemig, o’i gymharu â 8% o’r boblogaeth sy’n oedolion. Ac er i’r niferoedd ostwng wrth i’r cyfyngiadau lacio (22%), roedd dal i fod yn uwch na lefelau unigrwydd ymysg oedolion (6%)1

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 88% o Brydeinwyr 18-24 oed yn dweud eu bod yn profi unigrwydd i ryw raddau, gyda 24% yn profi unigrwydd yn aml a 7% yn dweud eu bod yn teimlo’n unig drwy’r amser.

Drwy amlygu unigrwydd a’i effaith ar iechyd meddwl, rydym yn gobeithio lleihau stigma a bod o gymorth i bobl sy’n unig, neu mewn perygl o brofi unigrwydd.

Student Guide to Loneliness cover

Mae prosiect U OK? y Sefydliad Iechyd Meddwl wedi ei leoli mewn colegau, dosbarthiadau chweched a phrifysgolion. Gan ddefnyddio’r un ddarpariaeth cymheiriaid ac a geir yn ein Prosiect Addysg Cymheiriaid, mae myfyrwyr hŷn yn darparu gweithdai iechyd meddwl i fyfyrwyr ieuengach; ac o gymorth iddynt drawsnewid o addysg statudol i addysg uwch ac i fyd gwaith.

Mae’r prosiect U OK? wedi gweithio gyda myfyrwyr mewn prifysgolion sy’n cymryd rhan ac Arweinwyr Ifanc Fforwm Iechyd Meddwl i greu’r canllaw hwn i fyfyrwyr.

Cymorth i Fyfyrwyr

  • Student Space - cymorth un i un i helpu gyda pha bynnag her rydych yn wynebu, wedi’i ddylunio ar gyfer myfyrwyr. Tecstiwch STUDENT i 85258.
  • The Mix  - elusen yn y DU sy’n cynnig cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl dan 25 oed. Gall pobl ifanc gael cymorth gan y tîm hyfforddedig, un ai drwy ffonio, drwy sgwrsio ar y we, neu dros e-bost
  • Shout 85258  - gwasanaeth cymorth dros neges destun, cyfrinachol, 24/7, rhad ac am ddim.
  • Samariaid   - elusen yn y DU sy’n cynnig cymorth ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn, yn rhad ac am ddim.  Ffoniwch 116 123 yn rhad ac am ddim, neu anfonwch e-bost at  [email protected] .

1ONS (2021) Coronafeirws a myfyrwyr addysg uwch: Lloegr, 15 Ebrill to 22 Ebrill 2021 

Was this content useful?