Rydym yn yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd camau i leihau lefelau gorbryder a diogelu iechyd meddwl y cyhoedd.
60 y cant
o oedolion yng Nghymru wedi profi gorbryder a oedd wedi amharu ar eu bywydau bob dydd yn ystod y pythefnos diwethaf.
36 y cant
o oedolion yng Nghymru sy’n teimlo’n orbryderus yn teimlo’n orbryderus am allu talu’r biliau.
31 y cant
o oedolion yng Nghymru sy’n teimlo’n orbryderus yn dweud nad ydynt yn ymdopi’n dda.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd camau i leihau lefelau gorbryder wrth iddo gyhoeddi ymchwil heddiw sy’n dangos bod chwech o bob deg oedolyn yng Nghymru (60%) wedi profi gorbryder a oedd wedi amharu ar eu bywydau bob dydd yn ystod y pythefnos blaenorol.
Ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (15-21 Mai 2023), mae’r elusen y tu ôl i’r ymgyrch yn codi’r pryder ynghylch effaith gorbryder ledled Cymru wrth iddi gyhoeddi Cyfnod Ansicr: Gorbryder yng Nghymru a sut i fynd i’r afael ag ef. Mae’r papur yn amlinellu pa mor gyffredin yw gorbryder ar draws y boblogaeth, y prif ffactorau sbarduno yn dilyn y pandemig a’r argyfwng costau byw, ac argymhellion i lywodraethau leihau lefelau gorbryder a chefnogi iechyd meddwl da. Ymysg yr argymhellion mae galwad am ddatblygu a chyflwyno strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd yng Nghymru sy’n cynnwys ffocws ar atal a gweithredu ar draws holl adrannau’r llywodraeth.
Canfu arolwg o 1000 o oedolion yng Nghymru a gynhaliwyd ar ran y Sefydliad Iechyd Meddwl gan Opinium fod bron i dri chwarter (73%) wedi teimlo’n orbryderus o leiaf weithiau yn ystod y pythefnos blaenorol. Roedd dros chwarter (26%) o’r rheini a oedd yn teimlo gorbryder yn teimlo’n orbryderus i’r graddau ei fod wedi’u hatal rhag gwneud yr hyn y byddent yn hoffi neu angen ei wneud. Roedd mwy nag un o bob pump (23%) yn teimlo’n orbryderus y rhan fwyaf o’r amser neu drwy’r amser.
Er bod gorbryder mor gyffredin, mae stigma a chywilydd yn chwarae rhan yn y ffordd y mae pobl yn delio â gorbryder. Mae dros bedwar oedolyn o bob deg yng Nghymru (45%) sydd â theimladau o orbryder yn ei gadw’n gyfrinach. Mae hyn yn awgrymu, er bod cynnydd wedi bod o ran trafod iechyd meddwl yn fwy agored dros y blynyddoedd diwethaf, nad yw nifer sylweddol o bobl yn gyfforddus yn siarad am eu profiadau eu hunain o hyd.
Yn bryderus, mae un o bob tri pherson (31%) sydd â theimladau o orbryder yn dweud nad ydynt yn ymdopi’n dda â’r teimladau hynny. Mae hyn yn peri pryder oherwydd bod gorbryder cronig (neu hirdymor) yn gysylltiedig â risg uwch o broblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl.
Mae canlyniadau’r arolwg yn ei gwneud yn glir bod straen ariannol yn achosi gorbryder ledled Cymru, gan ddangos nad yw’r gefnogaeth bresennol i bobl sy’n cael trafferthion yn mynd yn ddigon pell. Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd dros orbryder yn ystod y pythefnos diwethaf oedd gallu fforddio talu biliau, a nodwyd gan fwy na thraean (36%) o’r ymatebwyr, a dywedodd 44 y cant y byddai diogelwch ariannol yn helpu i atal gorbryder.
Dywedodd Dr Shari McDaid, Pennaeth Polisi ar gyfer y gwledydd datganoledig yn y Sefydliad Iechyd Meddwl:
“Ar draws Cymru, mae pobl yn profi lefelau o orbryder sy’n eu hatal rhag byw eu bywydau, gyda llawer yn peidio â siarad amdano ac yn cael trafferth ymdopi. Mae modd ac mae’n rhaid gwneud mwy i ddiogelu ein hiechyd meddwl. Un o brif elfennau ein Hwythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw annog pobl i rannu eu profiadau o orbryder a gwella dealltwriaeth o’r camau y gallwn eu cymryd. Fodd bynnag, mae maint y problemau yn gofyn am newid sy’n mynd y tu hwnt i gamau gweithredu unigol.
“Ni allwn ni drin ein ffordd allan o argyfwng iechyd meddwl; mae arnom angen gweithredu sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael gan gynnwys tlodi, straen ariannol ac anghydraddoldeb. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’i haddewid i gyhoeddi strategaeth iechyd meddwl drawsadrannol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf eleni, gyda chamau cadarn i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl.”
Cyfnod Ansicr: Gorbryder yng Nghymru a sut i fynd i’r afael ag ef
Yn y papur a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi a chyflawni cynllun hirdymor i atal salwch meddwl. Dylai’r cynllun hwn gynnwys camau gweithredu ac atebolrwydd ar draws adrannau’r llywodraeth. Y rheswm am hynny yw bod pob agwedd ar ein cymdeithas, gan gynnwys gwaith, addysg a thai, yn effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Mae’r elusen yn galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru pwysau’r cynnydd mewn costau byw fel rhan o’r cynlluniau trawslywodraethol hyn. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau bod budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn cynnwys hanfodion bywyd, fel nad yw pobl yn cael eu gorfodi i beidio â chael prydau bwyd neu beidio â chynhesu eu cartref, a rhaglenni lleihau dyledion.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gobeithio y gall ei Ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl roi cyfle i bobl ddweud sut mae gorbryder yn effeithio arnyn nhw, rhannu eu profiadau, cael awgrymiadau a chyngor ar sut i reoli teimladau o orbryder, a chael gwybod pa gymorth pellach sydd ar gael.
We are the home of Mental Health Awareness Week

Diwedd
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth a cheisiadau am gyfweliad, cysylltwch â [email protected] .
Ynghylch yr Arolwg
Cafodd yr arolwg o 1000 o oedolion 18 oed a hŷn yng Nghymru ei gynnal gan Opinium rhwng 24 Mawrth a 3 Ebrill 2023. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli i gynrychioli’r wlad yn genedlaethol.
Gwybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
- Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gartref i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a sefydlodd yr wythnos i ddechrau yn 2001.
- Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw gorbryder.
Gwybodaeth am y Sefydliad Iechyd Meddwl
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl yw cartref Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
- Ein gweledigaeth yw iechyd meddwl da i bawb.
- Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gweithio i atal problemau iechyd meddwl.
- Rydym yn sbarduno newid tuag at gymdeithas sy’n iach yn feddyliol i bawb, ac yn cefnogi cymunedau, teuluoedd ac unigolion i fyw bywydau iach yn feddyliol gan ganolbwyntio’n benodol ar y rheini sydd fwyaf mewn perygl.
- Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi ymrwymo i hyrwyddo cymuned wrth-hiliol a chynhwysol lle gallwn ni i gyd fod yn ni ein hunain.
- Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn dibynnu ar roddion gwirfoddol i ddarparu cyngor ar sail tystiolaeth ac i wneud gwaith hanfodol i atal iechyd meddwl gwael.