Y Sefydliad Iechyd Meddwl Yn Cyhoeddi Mai Unigrwydd Fydd Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2022

1st Dec 2021
Mental Health Awareness Week
Loneliness

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – dydd Llun 9 Mai hyd ddydd Sul 15 Mai 2022 Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi cyhoeddi dyddiadau a thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y flwyddyn nesaf. Bydd yr Wythnos yn cael ei chynnal o ddydd Llun 9 Mai tan ddydd Sul 15 Mai 2022. Bydd yr wythnos yn archwilio unigrwydd, ei effaith ar ein hiechyd meddwl a sut y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth leihau unigrwydd yn ein cymunedau.

Mae unigrwydd yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU bob blwyddyn ac mae’n yrrwr allweddol o ran iechyd meddwl gwael. Mae ymchwil y Sefydliad, Iechyd Meddwl yn ystod y Pandemig, wedi canfod bod pandemig Covid wedi gwaethygu unigrwydd yn fawr iawn. Mae'r Sefydliad wedi bod yn olrhain lefelau unigrwydd yn y DU yn ystod y pandemig a chanfu fod teimladau o unigrwydd wedi dod yn fwy cyffredin na chyn y cyfnod clo, gydag effaith ddinistriol. Mae unigrwydd wedi bod yn ffactor pwysig gan gyfrannu at lefelau uwch o drallod mewn perthynas ag ymdeimlad pobl o unigedd a llai o allu i gysylltu ag eraill. Canfu holi pellach hefyd fod unigrwydd yn un o'r prif faterion yr oedd y cyhoedd yn teimlo bod angen mynd i'r afael ag ef.

MHAW 2022 Date image

Bydd yr wythnos yn codi ymwybyddiaeth o effaith unigrwydd ar ein lles meddyliol a’r camau ymarferol y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.  Mae lleihau unigrwydd yn gam mawr tuag at gymdeithas sy’n iach yn feddyliol.

Dywedodd Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru: “Mae unigrwydd yn effeithio ar fwy a mwy ohonom yn y DU ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pandemig. Dyna pam rydym wedi ei ddewis fel ein thema ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2022. Mae ein cysylltiad â phobl eraill a'n cymuned yn sylfaenol o ran amddiffyn ein hiechyd meddwl ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â’r epidemig unigrwydd. Gallwn oll chwarae rhan yn hyn o beth. Mae'r wythnos hefyd yn gyfle amhrisiadwy i bobl siarad am bob agwedd ar iechyd meddwl, gyda ffocws ar ddarparu help a chyngor.”

Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi pennu’r thema, wedi trefnu a chynnal Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl am y 22 mlynedd diwethaf, ac yn ystod yr amser hwnnw mae'r digwyddiad wedi tyfu i fod yn un o'r wythnosau ymwybyddiaeth mwyaf ledled y DU ac yn fyd-eang. Bydd manylion pellach yn cael eu rhyddhau yn y cyfnod cyn yr Wythnos y flwyddyn nesaf.

 

Diwedd

 

Nodiadau ar gyfer golygyddion:   

Gwybodaeth am y Sefydliad Iechyd Meddwl

Ein gweledigaeth yw iechyd meddwl da i bawb. Mae’r Sefydliad iechyd Meddwl yn gweithio er mwyn atal problemau iechyd meddwl. Rydym yn gyrru newid tuag at gymdeithas sy’n iach yn feddyliol i bawb, a chefnogwn gymunedau, teuluoedd ac unigolion i fyw bywydau sy’n iachach yn feddyliol gan ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Y Sefydliad yw cartref Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.mentalhealth.org.uk.

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa wasg y Sefydliad Iechyd Meddwl yn  [email protected]

Was this content useful?