Y Sefydliad Iechyd Meddwl, Y Cydgyngor Ymarferwyr Cosmetig A Chyngor Harddwch Prydain Yn Cyhoeddi Arweiniad Newydd Ar Gyfer Llywio Dewisiadau Am Weithdrefnau Cosmetig

19th Jul 2021
Challenging mental health inequalities
Body image

Mae cyngor newydd ar sut i deimlo’n dda am ein cyrff a sut i wneud penderfyniadau gwybodus am driniaethau cosmetig yn cael ei lansio heddiw gan y Sefydliad Iechyd Meddwl (SIM), gyda chefnogaeth y Cydgyngor Ymarferwyr Cosmetig (JCCP) a Chyngor Harddwch Prydain. 

Mae'r cyngor ymarferol wedi'i deilwra i gefnogi pobl ar dri cham yn ystod bywyd, a gall pob un ohonynt ddod â'i bryderon ei hun am ddelwedd y corff: oedolion ifanc, cyfnod magu plant ac oedolion aeddfed. Y tri chanllaw newydd yw:

Oedolion Ifanc – detholiad o strategaethau a straeon personol am sut i gynnal delwedd corff iach er gwaethaf pwysau cymdeithasol a masnachol, a gwneud penderfyniadau gwybodus am driniaethau cosmetig.

Canllaw ar gyfer Rhieni – codi ymwybyddiaeth o sut y gall magu plant a dylanwadau eraill effeithio ar ddatblygiad delwedd y corff mewn plant a phobl ifanc, a rhannu awgrymiadau ar gyfer gwrthbwyso pwysau cymdeithasol a masnachol di-fudd.

Oedolion Aeddfed – tynnu sylw at y dylanwadau mwyaf cyffredin ar ddelwedd y corff fel oedolyn, gan rannu awgrymiadau ar gyfer cynnal delwedd corff iach, a mynd i’r afael â diogelwch a dewis gwybodus os yw rhywun yn ceisio triniaethau cosmetig.

Mae pobl ifanc wedi dweud bod cyfnod clo Covid-19 wedi dwysáu eu pryderon ynghylch delwedd y corff. Mae triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol ar gynnydd, yn enwedig ymhlith pobl iau. Mae marchnata cynhyrchion a gwasanaethau fel llenwyr croenol a phigiadau tocsin botwlinwm chwistrelladwy weithiau'n amhriodol, ac mae'n targedu cynulleidfaoedd iau fwyfwy trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Darperir gweithdrefnau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol mewn marchnad heb ei rheoleiddio lle mae gan ymarferwyr gymwysterau a hyfforddiant amrywiol iawn.  

Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod 51% o bobl ifanc 18–34 oed wedi ystyried cael triniaeth gosmetig yn ystod y 12 mis nesaf. Dywedodd 91% o 160 aelod o Rwydwaith Profiad Personol SIM a ymatebodd i arolwg delwedd y corff yn 2021 eu bod yn credu bod yn rhaid i ddarparwyr cosmetig fod wedi'u cofrestru a'u hyswirio, ond nid fel hyn mae hi gyda darparwyr nad ydynt yn llawfeddygol. Roedd 43.3% o bobl yn teimlo'n anwybodus ynghylch risgiau neu sgîl-effeithiau triniaethau cosmetig.  

Mae cynghorion gwych ar gyfer delio â phryderon delwedd y corff wedi'u rhyddhau, yn ogystal â stori ar ffurf comic sy'n rhoi cyngor i bobl ifanc mewn ffordd weledol gyfeillgar. Mae'r awgrymiadau'n cynnwys cydnabod delweddau corff afrealistig ar gyfryngau cymdeithasol, cymryd seibiannau rheolaidd o'r cyfryngau cymdeithasol, gwirio'r ffeithiau yn gyntaf cyn penderfynu ar driniaethau, ac adeiladu dolen adborth gadarnhaol rhyngoch chi a'ch ffrindiau. 

Mind Over Mirror

Dywedodd Katrina Jenkins, Rheolwr Rhaglenni wedi’u Targedu yn y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Mae cysylltiad agos iawn rhwng delwedd y corff a'n hiechyd meddwl. Gall cyfryngau cymdeithasol, cyfoedion a theulu oll effeithio ar sut rydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain, a'r ddelwedd sydd gennym o'n cyrff ein hunain. Mae gwneud dewisiadau gwybodus yn ganolog i'n lles, ac mae hyn hefyd yn wir am benderfyniadau am ein cyrff, sy'n unigryw i ni a'n hanghenion unigol. Mae gofyn y cwestiynau cywir a bod yn wybodus yn golygu y gallwn gael ein hamddiffyn rhag marchnata rheibus a gwneud penderfyniadau sy'n cefnogi ein diogelwch a'n hiechyd meddwl yn y tymor hir." 

Mae’r SIM a’r JCCP yn credu y dylai pawb sy’n ceisio gweithdrefnau cosmetig dderbyn gwybodaeth gywir sy’n sail ar gyfer gwneud dewis gwybodus, ac sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o sut mae’r gweithdrefnau hyn yn rhyngweithio gyda’u hiechyd meddwl.  

Dywedodd Yr Athro David Sines CBE, Cadeirydd JCCP: “Mae'r JCCP yn gosod diogelwch y cyhoedd a chydsyniad gwybodus wrth wraidd ei ymgyrchoedd ymgysylltu â defnyddwyr. Mae wedi ymrwymo i wella a chryfhau diogelwch y cyhoedd ond mae'n cydnabod ar hyn o bryd mai’r hyn sydd wedi bod yn ddiffygiol yw canllawiau clir, tryloyw a hawdd eu deall i gynorthwyo pobl iau, rhieni ac oedolion i wneud dewisiadau gwybodus, wedi'u hasesu ar sail risg, ynghylch y triniaethau estheteg sy’n diwallu eu hanghenion a'u disgwyliadau personol orau. 

“Mae'r Cyngor o'r farn bod angen dealltwriaeth wybodus bellach o'r buddion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweinyddu gweithdrefnau o'r fath os ydym am amddiffyn aelodau'r cyhoedd yn well. Mae'n bleser gan y JCCP gymeradwyo'r gwaith rhagorol a wnaed gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fel cyfraniad allweddol at wella diogelwch defnyddwyr a diogelu'r cyhoedd."  

Dywedodd Helena Grzesk, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Harddwch Prydain: “Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl i gefnogi lansiad y pecynnau cymorth hanfodol hyn sy’n hyrwyddo delwedd a lles corff iach. Gwyddom y gall delwedd y corff effeithio ar hunan-barch ac iechyd meddwl ym mhob oedran; mae'n hanfodol codi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl ifanc a rhieni i wneud penderfyniadau gwybodus. 

“Rhan o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghyngor Harddwch Prydain yw cynrychioli’r sector ar lefel y llywodraeth a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiad, 'Effeithiau'r Gwasanaethau Gofal Personol ar Iechyd a Lles Meddwl' sy'n cynnwys argymhellion pwysig ar gyfer treialon pellach yn y DU, cyllido ac ar gyfer datblygu cymwysterau lefel uwch yn gyflym er mwyn uwchsgilio'r gweithlu a gwella cefnogaeth iechyd meddwl a lles yn y dyfodol.”  

DIWEDD 

Y Cydgyngor Ymarferwyr Cosmetig 

Cafodd y Cydgyngor Ymarferwyr Cosmetig (JCCP) ei lansio’n ffurfiol fis Chwefror 2018 fel corff ‘hunanreoleiddiol’ ar gyfer y sector estheteg ac adfer gwallt an-lawfeddygol yn y DU ac mae wedi derbyn cydnabyddiaeth gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA) a statws elusennol. Mae’r statws elusennol yn adlewyrchu cenhadaeth gyffredinol nid-er-elw y JCCP sef gwella diogelwch cleifion a diogelu’r cyhoedd. Cafodd y cysyniad ar gyfer y JCCP ei lunio gan Adran Iechyd y DU a chafodd ei ysbrydoli gan Health Education England ar ran GIG Lloegr a’r Adran Iechyd.  

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:  [email protected]  

Nodiadau ar gyfer golygyddion: 

Y Sefydliad Iechyd Meddwl 

Y Sefydliad Iechyd Meddwl yw’r brif elusen ar gyfer iechyd meddwl pawb. Gydag atal wrth wraidd yr hyn a wnawn, ein nod yw canfod a mynd i’r afael ag achosion problemau iechyd meddwl fel bod pobl a chymunedau’n gallu ffynnu. 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:  [email protected]   

Hefyd, ewch i www.mentalhealth.org.uk 

Cyngor Harddwch Prydain 

Sefydlwyd Cyngor Harddwch Prydain i gynrychioli lleisiau, barn ac anghenion diwydiant harddwch Prydain - o drin gwallt i gynnyrch cosmetig, llawfeddygaeth gosmetig, therapi a sba; mewn addysg a hyfforddiant; ac o lunio i weithgynhyrchu, cyflenwi, pecynnu logisteg, dylunio, manwerthu a'r cyfryngau. Rydym yn sefydliad cynhwysol dielw sy'n gweithio i ennyn diddordeb llunwyr polisi ac arweinwyr busnes ynghylch gwerth harddwch Prydain i'r economi genedlaethol, a'i rôl allweddol yng nghymeriad creadigol a diwylliannol y DU.  

Ein huchelgais yw sicrhau bod y diwydiant harddwch yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi ar bob lefel o lywodraeth, trwy'r economi ehangach a chan ddefnyddwyr, yn ogystal â chefnogi diwydiant harddwch Prydeinig llwyddiannus, arloesol a chynhwysol. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Helena Grzesk yn  [email protected]  

Cyfeiriadau:  

  • Mental Health Foundation. (2019). Body Image: How we think and feel about our bodies. London: Mental Health Foundation.  

  • MHF – National Survey. Opening Participation to Everyone Network (OPEN). [Unpublished: May 2021] 

  • Real Self (2018) U.K. Aesthetics Interest Survey 

  • Real Self (2018) Aesthetics Interest Report  

  • DH. (2013) Review of the Regulation of Cosmetic Interventions.  

Was this content useful?