Stori Shereen: Covid Hir

This content mentions anxiety, which some people may find triggering.

Mae’r pandemig wedi bod yn heriol i bawb, er hyn, gall llawer ohonom fod yn optimistaidd ynglŷn â’r dyfodol wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio ac wrth i fwy o bobl gael eu brechu. Fodd bynnag, i bobl y mae Covid hir yn effeithio arnynt, gall y golau ym mhen draw’r twnnel ymddangos yn llawer pellach i ffwrdd.

Yn ôl data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), fis Mawrth 2021 roedd dros un filiwn o bobl yn y DU yn dioddef effeithiau Covid hir. Er bod symptomau’n amrywio, mae llawer yn cyfeirio atynt fel rhai di-baid sy’n cynnwys prinder anadl, peswch parhaus, poen yn y frest, blinder cronig, poen yn y cyhyrau, colli chwant bwyd, colli blas ac arogl, a dryswch.

Mae rheoli symptomau corfforol covid hir yn ddigon anodd ond mae’r effaith ar iechyd meddwl yr un mor ddifrifol, sydd hyd yn oed yn fwy heriol oherwydd yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth gyfyngedig o’r cyflwr.

Cafodd Shereen, 38, o Glasgow ei tharo gan achos difrifol o coronafeirws fis Mawrth 2020 a bu’n rhaid iddi gael ei thrin yn yr ysbyty.

Shereen: "Roeddwn i mor sâl, roeddwn i’n teimlo fel mod i’n mynd i farw. Pan gyrhaeddais yr ysbyty, cefais fy rhoi mewn ystafell aros gyda llawer o bobl eraill yr amheuwyd eu bod yn dioddef o Covid. Rwy’n cofio meddwl, os nad oedd Covid gen i, fe fyddai cyn i mi adael. Pan welais y meddyg, doedd hi ddim yn gwisgo unrhyw PPE ac roeddwn yn poeni amdani ac yn ofni mai fi fyddai’n ei heintio. Roedd hynny’n chwarae ar fy meddwl am wythnosau wedi hynny.”

Cafodd Shereen ddiagnosis cyn i brofion ddod yn fater o drefn, a chafodd ei hanfon adref i’w fflat yng nghanol y ddinas lle mae’n byw ar ben ei hun.

Ychwanegodd: “Mae symptomau Covid yn arteithiol.Fel rheol, rydw i’n berson hunangynhaliol a galluog iawn ond roedd yn teimlo fel fy mod wedi bod mewn rhyfel. Ar wahân i’r boen gorfforol, roeddwn yn teimlo’n wenwynig. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r risg o heintio eraill a gwnes yn siŵr fy mod yn ynysu, a gorchuddio’r blwch llythyrau gyda bag plastig hyd yn oed. Ar ôl fy salwch cychwynnol, roeddwn yn gobeithio y byddwn yn gwella, ond rydw i wedi dioddef gydag ailwaelu ers hynny. Digwyddodd yr ailwaelu cyntaf oddeutu tair wythnos yn ddiweddarach. Roedd yn teimlo fel bod crachen yn cael ei rhwygo oddi ar fy ysgyfaint; roedd yn teimlo fel eu bod ar dân. Er hynny, cymerodd chwe mis i mi fynd yn ôl i’r un ysbyty y bûm ynddo pan gefais Covid gyntaf er mwyn mynd i glinig problemau anadlu. Roeddwn i mor bryderus am fod yno eto, cefais byliau o banig.”

Er bod Shereen yn dal i deimlo effaith Covid hir, mae’r ailwaelu’n digwydd yn llai aml na chynt. Fodd bynnag, mae ei bywyd nawr yn llawer distawach nag o’r blaen gan ei bod yn dioddef o orludded a blinder. Nid yw’n gallu cerdded am fwy nag ugain munud na siarad am gyfnodau hir heb gynllunio gorffwys addas ymlaen llaw er mwyn osgoi bod yn gwbl ddi-egni. Mae hi’n dal i fyw gyda phoen yn y cyhyrau a’r cymalau, ac mae’n rhaid iddi gymryd dwy feddyginiaeth poen nerfol a gweld ffisiotherapydd.

Cyn mynd yn sâl gyda Covid, roedd Shereen yn gantores a oedd hefyd yn barod i gychwyn busnes gwerthu teisennau bach. Bu’n rhaid gohirio’r ddau beth am gyfnod amhenodol ac ar hyn o bryd mae hi’n ddi-waith.

Dywedodd Shereen: “Wrth fyw gyda’r cyflwr ‘di-baid’ hwn, dwi ddim yn teimlo fel fi fy hun. Mae fel pe bai popeth yn effeithio ar fy synnwyr o fy hunan ac rydw i bob amser yn teimlo’n wahanol. Mae’n anodd iawn delio â hynny oherwydd dydw i ddim yn gwybod a fydda’ i byth yn teimlo’n normal eto. Mae wir yn eich taro’n emosiynol gan eich bod ond eisiau bod yn well, ac rydw i bob amser yn poeni am ailwaelu eto ac yn meddwl ‘Alla’i ddim gwneud hyn eto’."

“Ym mis Awst dechreuais dderbyn cwnsela gan fy mod yn gwybod bod rhywbeth o’i le. Roedd gennyf deimlad gwirioneddol erchyll drwy’r amser, fel petawn yn ail-fyw’r boen pan oeddwn yn sâl. Mae’r cwnsela’n helpu. Dydw i ddim yn agored iawn am fy emosiynau fel arfer, hyd yn oed gyda fi fy hun, ond fe ffrwydrodd Covid rhywbeth y tu mewn i mi felly doedd fy mecanweithiau ymdopi arferol ddim yn mynd i weithio. Mae’r cwnselydd yn gwneud gwahanol ymarferion efo fi i adnabod fy nheimladau a sut rwy’n uniaethu â nhw. Er enghraifft, technegau datgysylltiol fel gofyn i mi ddisgrifio teimlad fel lliw."

"Mae’r cwnsela’n helpu. Dydw i ddim yn agored iawn am fy emosiynau fel arfer, hyd yn oed gyda fi fy hun, ond fe ffrwydrodd Covid rhywbeth y tu mewn i mi felly doedd fy mecanweithiau ymdopi arferol ddim yn mynd i weithio."

"Rydw i mewn swigen gyda ffrind, sy’n nyrs, a’i theulu, ond dydw i ond wedi’u gweld nhw bedair gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydw i hefyd yn dal i fyny gyda fy ffrindiau trwy alwadau fideo, ond mae’n rhaid i mi wneud yn siŵr fy mod wedi gorffwyso a bod gennyf yr egni ar gyfer hynny. Ar wahân i hynny, mae sgwrsio â phobl ar Grŵp Covid Hir Facebook wedi bod yn llawer o help. Mae’n wych siarad â phobl sydd wir yn deall yr hyn rydych yn mynd drwyddo a rhannu syniadau. Dyna pam y gwnes i greu grŵp Facebook preifat sy’n cyfarfod yn rheolaidd i siarad am bopeth – bywyd, symptomau, breuddwydion ar gyfer y dyfodol. Roeddwn yn gwybod y byddai pobl allan yna a oedd yn cael trafferth ymdopi, felly roeddwn i eisiau i bawb deimlo nad oeddent ar eu pennau eu hunain. Rydyn ni i gyd yno ar gyfer ein gilydd mewn ffordd, efallai, na all ein teulu a’n ffrindiau fod."

“Pethau eraill rydw i wedi bod yn eu gwneud ar gyfer fy iechyd meddwl yw yoga yin, myfyrdod, cadw dyddiadur hwyliau, ac ysgrifennu creadigol. Er, nid yw’n ymddangos bod fy mraich chwith yn gweithio ac rwy’n llaw chwith felly rydw i wedi gorfod ysgrifennu gyda fy llaw dde.”

Gan edrych i’r dyfodol, mae Shereen yn obeithiol y bydd yn cael y brechiad yn fuan, sydd, mewn rhai achosion o Covid hir, wedi helpu i leddfu symptomau.

If you feel affected by the content you have read, please see our get help page for support.

Related content

Coronavirus and mental health resources

A-Z Topic: Physical health and mental health

Photo of Dean

Read stories about people like you

Read the stories you've shared about your lived experiences of mental health.

Photo of mother and father holding a young baby

Help us to help you

Our Personal Experience Network (OPEN) is a diverse community whose personal experiences and stories guide everything we do, helping us to help you.

Make a donation

If you found Shereen's story helpful and you would like to make a contribution to improving mental health for future generations, please consider a donation.
Donate now
Was this content useful?