Cymryd Cwsg o Ddifrif: Cwsg a'n Hiechyd Meddwl

Mae cwsg yn hanfodol i bob agwedd ar ein bywydau, ond eto cwsg yw un o'r pethau cyntaf yr ydym yn ei gyfaddawdu pan rydym yn profi cyfnod prysur neu lethol. Yn aml nid yw ein bywydau a'n trefn ddyddiol, ysgolion, gweithleoedd ac amgylchedd yn y cartref neu'r gymuned wedi'u strwythuro mewn ffyrdd sy'n gwerthfawrogi a blaenoriaethu pwysigrwydd cwsg da.

Nid yn unig mae cwsg yn agwedd allweddol ar ein hiechyd corfforol, ond ein hiechyd meddwl hefyd. Fis Mawrth 2020, comisiynodd y Sefydliad Iechyd Meddwl ddau arolwg yn seiliedig ar gwsg ac iechyd meddwl gan YouGov: un gyda 4,437 o oedolion 18+b oed y DU ac un arall gyda 2,412 o bobl ifanc y DU rhwng 13-19 oed.c Yn ein harolygon ni, cytunodd bron i hanner (48%) o oedolion a dau draean o bobl ifanc (66%) bod cysgu'n wael yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Dylai gwell ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cwsg, a gweithredu'n systemig ar gwsg, fod yn flaenoriaeth. Gall cymryd cwsg o ddifrif a deall y nifer o ffyrdd mae cwsg yn rhyngweithio â'n bywydau ein helpu ni i fanteisio ar ei botensial fel ffordd rymus o hyrwyddo a diogelu iechyd meddwl iach i bawb.

Cover of Taking Sleep Seriously publication (cropped to heading)

Mae ein hadolygiad o'r ymchwil sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal ag arolygon barn newydd, yn pwysleisio'r rôl bwysig mae cwsg yn ei chwarae yng nghyd-destun:

Gall problemau cwsg fod yn symptom problemau iechyd meddwl a chyfrannu atynt. Gall triniaeth ar gyfer problemau cwsg helpu i wella iechyd meddwl. Mae peth tystiolaeth bod trin problemau cwsg yn gallu lleihau symptomau o iselder yn y boblogaeth gyffredinol, gan awgrymu y gall fod yn llwybr gofal iechyd meddwl ataliol.

Mae rhieni (yn enwedig mamau) i blant ifanc yn profi newidiadau sylweddol i ansawdd cwsg a faint o gwsg maent yn ei gael a gall hynny effeithio ar iechyd meddwl rhieni a chyfrannu at straen ymhlith teuluoedd. Gall trefn amser gwely helpu i ddatblygu arferion cysgu da ymhlith plant o oedran ifanc.

Gall trefn pobl ifanc, gan gynnwys amserlenni ysgol, effeithio ar faint o gwsg a gânt, sydd â goblygiadau i'w hiechyd meddwl. Gellir defnyddio rhaglenni addysg cwsg yn yr ysgol i wella gwybodaeth myfyrwyr ynglŷn â phwysigrwydd cwsg a sut i ddatblygu arferion cysgu iach.

Mae nodweddion gweithle yn effeithio ar ein cwsg a'n hiechyd meddwl. Yn ein harolwg, dywedodd 37% o oedolion sy'n gweithio bod eu gwaith (er enghraifft, llwyth gwaith, problemau gyda chydweithwyr a phryderon am sicrwydd swydd) yn lleihau'r rheolaeth sydd ganddynt dros eu cwsg. Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn cefnogi cwsg da ac iechyd meddwl iach yn y gwaith drwy hyrwyddo dewis sifftiau, cynnig rhaglenni cwsg iach i staff, hyrwyddo cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd ac ymgynghori gydag arbenigwyr a chynrychiolwyr gweithwyr i ddatblygu amserlenni gwaith hyblyg.

Mae anghydraddoldebau yn ansawdd ein cwsg a faint o gwsg yr ydym yn ei gael ac mae'r rheiny yn gysylltiedig â'n hamgylchedd, hil/ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, sefydlogrwydd ariannol, a phrofiadau o drawma. Yn ein harolwg, adroddodd chwarter (25%) o oedolion y DU bod poeni am faterion ariannol, gan gynnwys biliau, wedi effeithio yn negyddol ar eu cwsg yn y mis diwethaf. O blith y rhai anghyflogedig, adroddodd fwy na chwarter (27%) eu bod wedi cael meddyliau a theimladau hunanladdol yn sgil diffyg cwsg.

Rydym yn argymell:

Llywodraethau ledled y DU i ymgorffori cwsg (gan gynnwys atal a thrin problemau cwsg) yn eu strategaethau iechyd meddwl a llesiant - mae cwsg yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol da.

Rhaid i Gynghorau Ymchwil y DU weithio gyda phartneriaid y DU i ariannu ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth well o rôl cwsg fel penderfynydd iechyd a llesiant, a mynd i'r afael yn uniongyrchol â chwsg gwael fel agwedd ganolog ar iechyd meddwl.

Er y gellir gwneud newidiadau ar lefel gymdeithasol i gydnabod a blaenoriaethu cwsg yn well, mae pethau y gall pob un ohonom ddechrau gweithio arnynt heddiw, fel unigolion, i gefnogi ein cwsg a'n hiechyd meddwl ein hunain. Rhannodd yr Athro Colin Espie, Athro Meddyginiaeth Gwsg ym Mhrifysgol Rhydychen, bum egwyddor am iechyd cwsg da gyda'r Sefydliad Iechyd Meddwl, sef y dylem:

  • Werthfawrogi ein cwsg fel rhywbeth sy'n hanfodol i'n bywydau, a chymryd cwsg o ddifrif
  • Blaenoriaethu ein cwsg drwy roi cwsg yn gyntaf wrth wneud penderfyniadau ynghylch beth yr hoffem ei wneud
  • Personoleiddio ein cwsg drwy ddod o hyd i'r 'ffenestr gwsg' sy'n gweithio orau i ni
  • Ymddiried bod cwsg yn broses naturiol a bydd ein cwsg yn datblygu patrwm da ei hun
  • Gwarchod ein cwsg drwy osgoi neu atal pethau a all amharu arno. 

References

1 Total sample size was 4246 adults. Fieldwork was undertaken between 16 to 24 April 2020. The survey was carried out online. The figures have been weighted and are representative of all UK adults (aged 18+).

2 All figures, unless otherwise stated, are from YouGov Plc. Total sample size was 4437 adults. Fieldwork was undertaken between 9 to 11 March 2020. The survey was carried out online. The figures have been weighted and are representative of all UK adults (aged 18+).

3 All figures, unless otherwise stated are from YouGov Plc. Total sample size was 2412 teenagers (aged 13 to 19 years). Fieldwork was undertaken between 11 to 30 March 2020. The survey was carried out online. The figures have been weighted and are representative of all GB teenagers (aged 13 to 19 years).

How to sleep better

Sleep affects our ability to use language, sustain attention, understand what we are reading, and summarise what we are hearing; if we compromise on our sleep, we compromise on our performance, our mood, and our interpersonal relationships.

Find out more

Sleep and mental health

We all need to sleep well to help our bodies recover from the day and to allow healing to take place.

Find out more

Parenting and mental health

Being a parent with a mental illness can be hard. But with the right support, you can be a good parent while managing your mental health.

Find out more

Work-life balance

The pressure of an increasingly demanding work culture is one of the biggest challenges to society’s mental health.

Find out more

Was this content useful?