Dod yn Dad

Yn y canllaw hwn, rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar dy helpu di i wneud synnwyr o sut beth yw bod yn dad, edrych ar ôl dy hun ac eraill o dy gwmpas, a gwneud y gwaith gorau posib o ddod yn dad hyderus a gweithredol.

Rydyn ni wedi creu’r canllaw hwn i geisio ateb y cwestiynau a’r pryderon rwyt ti’n fwyaf tebygol o’u cael wrth i ti gychwyn ar dy daith at dadolaeth. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth i dy gyfeirio tuag at ba bynnag gymorth a chyngor y gallai fod eu hangen arnat ar y ffordd a, gobeithio, i dy helpu i wneud un o’r swyddi pwysicaf a gorau yn y byd – bod yn dad!

T Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar yr ymchwil orau, fwyaf diweddar, ac mae’n tynnu ar brofiadau miloedd o dadau sydd wedi teithio’r ffordd hon o dy flaen.

Dad graphic

Dyma amlinelliad o’r hyn rydym yn ei drafod ym mhob pennod

  1. Y wyddoniaeth o ‘ddod yn dad’ - Mae canrifoedd lawer o esblygiad y tu ôl i’r hyn rwyt ti’n ei brofi fel darpar dad newydd. Beth all gwyddoniaeth ei ddweud wrthym am yr hyn sydd ei angen ar blant gan dadau, a sut mae tadolaeth yn ein newid ni fel dynion?  
  2. Gofalu am dy hun - Mae’n ystrydeb, ond mae’n wir: sut allwch chi ofalu am rywun arall os nad wyt yn gwybod sut i ofalu amdanat dy hun? Mae’r bennod hon yn ymwneud ag agor allan i ti dy hun, bod yn onest am dy deimladau ynghylch tadolaeth, a dod o hyd i ffyrdd o aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig yn ystod yr hyn a all fod yn amser cyffrous ond llawn straen. 
  3. Cefnogi mam fiolegol dy fabi - Beth bynnag yw natur dy berthynas â’r person yma – rhamantus neu fel arall – fe fydd yn hynod bwysig i dy fabi, ac fe fydd yn mynd drwy lawer o bethau difrifol. Yma rydym yn canolbwyntio ar daith gorfforol mamau biolegol, a’r hyn y galli di ei wneud i helpu. Er, os oes mam fenthyg, gall hyn ychwanegu dimensiwn gwahanol. 
  4. Gofalu am dy berthynas gyda dy bartner - Gall y cyfnod amenedigol fod yn dir peryglus ar gyfer perthnasoedd cyplau – gall eu hatgyfnerthu neu eu chwalu, neu gall wneud fawr ddim o wahaniaeth. Yn y bennod hon rydym yn canolbwyntio ar heriau allweddol ac yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i gynnal neu wella’ch perthynas hyd yn oed. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y galli di ei wneud os yw’r cyfan yn mynd o chwith.
  5. Pennod 5. Dod i adnabod dy fabi - Gall dynion ei chael hi’n anodd ‘ymgysylltu’ gyda’r babi yn y groth, a hyd yn oed ar ôl iddo gael ei eni. Yma rydym yn edrych ar ffyrdd syml o gysylltu â dy blentyn, i adeiladu bond cryf a dechrau gweithio allan sut mae pawb yn ffitio yn dy deulu newydd. 
  6. Jyglo gwaith a’r cartref - Gall teulu, ffrindiau, y gymdeithas ehangach – a ninnau ein hunain – roi llawer o bwysau ar dadau i fod yn ‘ddarparwr’. Yma rydym yn edrych ar sut i lywio’r agwedd hon ar dy hunaniaeth fel tad a chynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwneud y gorau o’r amser sydd gennyt gyda dy fabi, ac ar gyfer creu cydbwysedd gwaith / bywyd sy’n dy alluogi i fod yn dad gweithredol.  
  7. Beth i’w wneud os wyt yn cael trafferth a ble i ddod o hyd i help - Gall tadolaeth gynnar fod yn flinedig ac yn straen. Mae’r rhan fwyaf o dadau yn dod drwyddi, ond mae rhai yn ei chael hi’n anodd iawn ymdopi. Mae’r bennod hon yn ymwneud â sut i adnabod problemau cyn iddynt fynd yn rhy ddifrifol, a ble i fynd am help os bydd ei angen arnat. 
Was this content useful?