Meithrin gwytnwch yn y sector pysgota yng Nghymru

Wrth i’r Deyrnas Unedig (DU) baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae ansicrwydd sylweddol yn dal i fodoli ar gyfer y diwydiant pysgota, pysgotwyr, a chymunedau arfordirol yng Nghymru.

Gall cyfnodau o ansicrwydd sylweddol gael effaith andwyol ar iechyd a lles. Yn ystod y cyfnod hwn mae o bwys mawr deall a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol gorbryder a thrallod, ochr yn ochr â chefnogi iechyd a lles meddyliol y rhai y mae hyn fwyaf tebygol o effeithio arnynt.

Nod yr adroddiad hwn yw datblygu fframwaith i gefnogi iechyd a lles meddyliol pysgotwyr ar adeg o ansicrwydd, ac ystyried sut y gellir ei droi’n gamau gweithredu. Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaethom gyfuno adolygiad o’r llenyddiaeth ryngwladol a gyhoeddwyd dros y deng mlynedd ddiwethaf â barn tri ar ddeg o randdeiliaid o bob rhan o’r sector pysgota yng Nghymru.

Fishing graphic

Nodwch: Cynhaliwyd y rhaglen ymchwil hon yng nghyd-destun penderfyniad y DU i adael yr UE. Mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu’r dystiolaeth a’r farn ar gyfnod mewn amser cyn y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae sawl ansicrwydd a her a nodir yn faterion hirsefydlog sy’n wynebu pysgotwyr yng Nghymru, y gallai Brexit a COVID-19 eu gwaethygu ymhellach. Mae’r dulliau a nodir ar gyfer cefnogi iechyd a lles meddyliol yn dal i fod yn amserol a pherthnasol yng nghyd-destun heddiw.

Canfyddiadau allweddol

Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r prif ansicrwydd a heriau a wynebir gan bysgotwyr a chymunedau pysgota yng Nghymru ac yn nodi dulliau ataliol ar gyfer gwarchod rhag effeithiau ar iechyd a hybu iechyd a lles meddyliol, i gryfhau gwytnwch.

Publication: Supporting farming communities at times of uncertainty

This guide aims to support farming communities at times of uncertainty, by providing an action framework to support the mental health and wellbeing of farmers and their families.

Blog: 'Top tips to look after your mental health at times of political uncertainty'

Political uncertainty can negatively affect to our mental health. These tips can help to minimise the impact that events have on how we feel.

Was this content useful?