Dr Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymru)

Ymunodd Jenny â’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn Awst 2017.

Mae gan Jenny gefndir o weithio ym maes iechyd meddwl a gweithredu cymdeithasol fel ymarferydd yn y GIG ac fel rheolwr prosiectau yn y trydydd sector a’r sector preifat. Mae ganddi ddiddordeb a phrofiad arbennig mewn lles teuluol yn enwedig yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae hi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig ac mae ganddi brofiad o reoli prosiectau yn y DU a'r Unol Daleithiau.

Roedd y PhD a ddyfarnwyd iddi gan Brifysgol De Cymru yn edrych ar feithrin gallu’r gweithlu a’r gymuned i gefnogi iechyd meddwl trwy waith grŵp a chefnogaeth cymheiriaid.

Mae Jenny yn mwynhau bod gyda'i gŵr a'u tri mab, sy'n oedolion, a'u teuluoedd. Mae hi'n hoffi darllen, ysgrifennu a chadw'n heini trwy nofio a gweithgareddau awyr agored. Mae hi hefyd yn mwynhau ffotograffiaeth.

Dr Jenny Burns

Related articles