Mae chwaraeon yn ffordd wych o liniaru’r niwed y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei achosi wrth i berson ifanc ddatblygu a dod yn oedolyn. Gall hefyd fod yn ffactor amddiffynnol ac adeiladu gwytnwch 1. Yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, mae gennym dipyn o fentrau chwaraeon ac iechyd meddwl. Un o’r rhain yw ‘Head in the Game’.
Rydym yn gweithio am ddwy flynedd fel ‘Partneriaeth Ddysgu’ gyda Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd (CCFF) i’w cefnogi gyda gwerthuso’r prosiect, gweithredu llesiant ac ymarfer sy’n wybodus am drawma.
Mae’r prosiect ‘Head in the Game’ yn adeiladu ar y blynyddoedd o brofiad sydd gan CCFF eisoes o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl neu ymhél â thrais ieuenctid. Rhaglen atgyfeirio yn unig yw hi ac mae’n darparu mentora i blant a phobl ifanc (8-18 oed) sy’n wynebu heriau gyda’u llesiant ac sydd angen ymyrraeth a chymorth cynnar.
Mae ‘Head in the Game’ yn cynnig deuddeg sesiwn 1:1 gyda’r nod o wella llesiant trwy raglenni pwrpasol sy’n canolbwyntio ar y person ifanc. Mae'r rhaglen hefyd yn caniatáu iddynt gael mynediad at weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt, gan gyfrannu at ddilyniant cadarnhaol a gwelliannau sy'n gweddu i amgylchiadau unigryw'r plentyn. Er enghraifft, (ond heb fod yn gyfyngedig i) ymrestru mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, neu weithgareddau cymunedol. Mae’r pynciau craidd a drafodir yn y sesiynau mentora 1:1 yn cynnwys strategaethau ymdopi, perthnasoedd rhyngbersonol iach, sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth gadarnhaol o lesiant.