Location: Wales
Mae data newydd a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan y Mental Health Foundation wedi dangos defnydd eang o strategaethau ymdopi nad ydynt yn iach gan bobl ar hyd a lled Cymru pan maent “dan straen, yn bryderus neu’n isel.”
Mae mwy na dwy ran o dair o oedolion Cymru (69%) wedi cymryd camau niweidiol i ymdopi ag iechyd meddwl gwael yn y mis diwethaf. Adroddodd dros draean (36%) iddynt dreulio amser ar eu pennau’i hunan i ffwrdd o eraill, a threuliodd traean (34%) fwy o amser yn sgrolio’r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein fel modd i ymdopi â phryder, straen a hwyliau isel, er gwaethaf corff cryf o dystiolaeth sy’n awgrymu y gall y camau hyn fod yn niweidiol i unigolion.
Roedd camau niweidiol eraill y dywedodd nifer sylweddol eu bod wedi’u gwneud i ymdopi â’u hiechyd meddwl yn cynnwys bwyta cysur neu orfwyta (27%), a gor-gysgu/ddim yn codi o’r gwely (31%) - y cyfeirir ato’n fwyfwy gan rai fel “pydru gwely.”
Er bod camau niweidiol yn gyffredin, ac yn uwch na chyfartaledd y DU, mae’r arolwg barn hefyd yn dangos bod nifer sylweddol o bobl yn cymryd camau defnyddiol a all leihau’r risg o iechyd meddwl gwael (roedd hwn hefyd yn uwch na chyfartaledd y DU). Mae mwy na phedwar mewn pum oedolyn (84%) yng Nghymru wedi cymryd o leiaf un cam defnyddiol i gefnogi’u hiechyd meddwl, a’r rhai mwyaf poblogaidd yw cael mynediad i fyd natur (41%), gwneud rhywbeth pleserus fel hobi (37%), a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu flaenoriaethu cwsg a gorffwys (35%).
Cyhoeddwyd yr arolwg o 1015 o bobl yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Opinium ar ran y Mental Health Foundation, er mwyn nodi diwrnod cyntaf Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (11-17 Mai). Mae’r ymchwil yn edrych ar agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch cymryd camau ar gyfer iechyd meddwl da, gan gynnwys y camau cadarnhaol a negyddol y mae pobl yn eu defnyddio i gynnal neu reoli eu hiechyd meddwl.
Dywedodd Catherine Razzell, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y Mental Health Foundation:
“Mae’r arolwg barn hwn yn dweud wrthym, yma yng Nghymru, bod pobl yn cymryd nifer pryderus o gamau niweidiol fel modd o ymdopi â’u teimladau neu iechyd meddwl gwael, megis sgrolio hyd syrffed a gorfwyta.”
“Rydym yn obeithiol wrth weld camau cadarnhaol yn cael eu cymryd gan unigolion er mwyn helpu i gynnal a gwella iechyd meddwl da. Mae gweithgareddau profedig a dibynadwy fel ymgysylltu â byd natur - ac yn ffodus mae gan lawer ohonom fynediad at hyn yng Nghymru, a chymryd rhan mewn ymarfer corff a gorffwys, fel ei gilydd - yn cefnogi ein hiechyd meddwl.”
Mae’r arolwg barn yn dangos bod bron i ddau draean o bobl Cymru (64%) yn cyflawni o leiaf un strategaeth ‘ymdopi’ niweidiol ochr yn ochr â’u camau ‘cefnogol’ cadarnhaol, gyda dim ond pumed (20%) o’r rhain yn cymryd camau defnyddiol yn unig i gefnogi eu hiechyd meddwl. Daw’r arolwg barn ddyddiau’n unig ar ôl etholiad y Senedd gyda llywodraeth newydd wedi’i hethol yng Nghymru, gan ddod â bywiogrwydd a chyfleoedd newydd i arwain iechyd meddwl cyhoeddus i’r genhedlaeth nesaf.
Parhaodd Catherine: “Er ei bod yn newyddion da bod pobl yn dod o hyd i ffyrdd o flaenoriaethu ac amddiffyn eu hiechyd meddwl a chefnogi’r rhai o’u cwmpas, mae angen mwy o weithredu gan ein llywodraethau i greu’r amodau sydd eu hangen i gefnogi iechyd meddwl da.”
“Rydym yn gweld newid gwleidyddol nas gwelir ond unwaith mewn cenhedlaeth yng Nghymru. Rydym flwyddyn i mewn i’r strategaeth iechyd meddwl deng mlynedd newydd i Gymru ac yn awyddus i weld sut mae’r llywodraeth newydd am weithredu a darparu adnoddau ar gyfer hyn.”
“Yn ychwanegol at ganolbwyntio adnoddau ar atal, sydd â buddion economaidd hirdymor fel y gwyddom, rydym yn gwybod bod anghyfartaleddau’n bodoli yma sy’n rhwystrau enfawr i iechyd meddwl da - cadw pobl wedi’u dal mewn tlodi am genedlaethau. Rydym yn awyddus i weld y llywodraeth newydd i Gymru yn mynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol. Nawr yw’r amser i weithredu yn hytrach na siarad.”