Date: Tue 7th Oct 2025
Mae pob antur yn dechrau gydag un cam... Cofrestrwch a byddwch yn rhan o’n Llwybr Tân yng Nghwrt Insole, Caerdydd, nos Fawrth 7 Hydref 2025.
Dewch i wynebu eich ofnau a herio eich hun i gerdded yn droednoeth dros wely o farwor poeth a chefnogi ein gweledigaeth i greu dyfodol iachach yn feddyliol i bawb! Mae llwybr tân yn fetaffor am fywyd, pob penderfyniad mawr a wnawn yn ein bywydau - y cam cyntaf yw’r anoddaf, ar ôl hynny rydym yn parhau i symud ymlaen. Mae cerdded ar hyd llwybr tân yn ffordd anhygoel o ryddhau ein hunain rhag ein credoau sy’n cyfyngu arnom - mae pawb ohonom yn gyfartal pan fyddwn yn sefyll yn droednoeth o flaen y tân.
Ymunwch â’n tîm...
Rydym yn gwybod bod bywyd yn brysur ac y gall fod yn llawn straen, ac nid oes gan bawb amser ar gyfer cynlluniau hyfforddiant estynedig - dyna pam mai’r Llwybr Tân yw’r digwyddiad perffaith i chi! Byddwch yn nwylo diogel Stephen Morgan, Arweinydd/Cyfarwyddwr y Llwybr Tân yn Firewalk Cymru, a fydd yn eich tywys drwy seminar rymusol ac ysbrydoledig cyn y Llwybr Tân i’ch paratoi i fynd amdani gyda’r her gyffrous hon!
Ymunwch â’r Mental Health Foundation a chroeswch dros y glo poeth, gan oresgyn eich ofnau a’ch rhwystrau eich hun.
Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael crys-t gan y Mental Health Foundation.
Ambell beth i’w nodi:
- Os oes gennych unrhyw anableddau neu gyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'r digwyddiad hwn, rhowch wybod inni.
- Ni all gwylwyr eistedd i mewn yn y gweithdy (mae hyn yn cynnwys plant), ond mae croeso mawr iddynt ddod i wylio a’ch cefnogi a dylent gyrraedd 15 munud cyn cynnal y llwybr tân ei hun.
- Ni fydd neb yn cael ei orfodi i gerdded ar y marwor ar unrhyw adeg - mae’n gwbl wirfoddol.
- Nid yw’r digwyddiad yn ddibynnol ar y tywydd - os bydd hi’n bwrw glaw, byddwn yn dal ati - oni bai y bydd y glaw neu’r eira mor drwm nes y diffoddir y tân, neu os cawn wyntoedd cryfion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Llwybr Tân, cysylltwch â ni drwy events@mentalhealth.org.uk neu cysylltwch â Firewalk drwy 020 7803 1123
