Meithrin gwytnwch yn y sector pysgota yng Nghymru

Wrth i’r Deyrnas Unedig (DU) baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae ansicrwydd sylweddol yn dal i fodoli ar gyfer y diwydiant pysgota, pysgotwyr, a chymunedau arfordirol yng Nghymru.

Gall cyfnodau o ansicrwydd sylweddol gael effaith andwyol ar iechyd a lles. Yn ystod y cyfnod hwn mae o bwys mawr deall a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol gorbryder a thrallod, ochr yn ochr â chefnogi iechyd a lles meddyliol y rhai y mae hyn fwyaf tebygol o effeithio arnynt.

Nod yr adroddiad hwn yw datblygu fframwaith i gefnogi iechyd a lles meddyliol pysgotwyr ar adeg o ansicrwydd, ac ystyried sut y gellir ei droi’n gamau gweithredu. Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaethom gyfuno adolygiad o’r llenyddiaeth ryngwladol a gyhoeddwyd dros y deng mlynedd ddiwethaf â barn tri ar ddeg o randdeiliaid o bob rhan o’r sector pysgota yng Nghymru.

Rhagair

Gyda thros 870 milltir o lwybr arfordir a mwy na hanner ei phoblogaeth yn byw mewn ardaloedd arfordirol, mae hanes Cymru wedi’i blethu’n agos â rhyngweithiadau ei phobl â’r môr.

Am ddegawdau, canrifoedd hyd yn oed, pysgota oedd prif ddiwydiant trefi a chymunedau niferus ar hyd arfordir Cymru ac, er bod dyddiau’r dociau Fictoraidd yn llawn llongau pysgota a chychod treillio wedi hen ddiflannu, mae’r sector pysgota’n dal i fod yn rhan bwysig o economi a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae diwydiant bwyd môr Cymru’n fusnes bywiog ac amrywiol sydd ag ystod o bysgodfeydd a gweithrediadau dyframaeth traddodiadol ac arloesol. Mae bwyd môr o’r ansawdd gorau’n glanio’n ddyddiol mewn porthladdoedd, harbwrs a thraethau ar hyd yr arfordir, o Gaerdydd i Gei Connah.

Mae’n dal i fod yn ddiwydiant sy’n arwyddocaol iawn i’r economi leol ac yn bwysig ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor llawer o gymunedau arfordirol; ac mae mewn perygl.

Mae’r adroddiad pwysig hwn yn amlygu goblygiadau’r ansicrwydd sy’n wynebu’r sector pysgota yng Nghymru. Mae sawl elfen o ansicrwydd yn hirsefydlog y gallai Brexit a’r pandemig COVID-19 eu gwaethygu. Gyda 90% o allforion pysgodfeydd yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd a thua thri chwarter fflyd Cymru’n cynnwys llongau pysgota bach, mae’r amgylchiadau digynsail hyn yn achosi straen ychwanegol.

Mewn cymunedau pysgota, mae iechyd da yn hollbwysig i allu unigolion a theuluoedd i gynnal bywoliaeth hyfyw, felly mae cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddyliol a lles cymdeithasol gweithwyr a’u cefnogi yn bwysig, yn amserol ac yn berthnasol.

Dull iechyd y cyhoedd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, sy’n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a chyd-gynhyrchu gyda gweithwyr y diwydiant a’u teuluoedd, yw’r unig ffordd gynaliadwy o feithrin gwytnwch yn y sector. Drwy roi’r fframwaith arfaethedig ar waith, mae cyfle i Gymru adeiladu ar etifeddiaeth hir y sector pysgota a bod yn arloeswr o ran mynd i’r afael â’r materion allweddol yn ymwneud ag iechyd a lles meddyliol ymhlith cymunedau pysgota.

Dr Antonis Kousoulis Cyfarwyddwr Cymru a Lloegr Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Casgliad ac argymhellion ar gyfer camau gweithredu

Ar gyfer fframwaith i gefnogi lles meddyliol pysgotwyr a’u teuluoedd mewn cyfnodau o ansicrwydd mae angen dull ataliol (gweler Ffigur 1) sy’n cynnwys ffocws ar:

  • Atal ansicrwydd a’r heriau a achosir gan adfyd
  • Diogelu rhag effaith bosibl yr heriau hynny ar iechyd a lles meddyliol
  • Hybu iechyd a lles meddyliol ymhlith pysgotwyr a chymunedau pysgota i gefnogi gwytnwch

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, ac mae’n seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, a barn pobl ar draws y sector pysgota yng Nghymru, gan gynnwys pysgotwyr eu hunain. Ymgais ydyw i fynd i’r afael â maes sydd o bwys allweddol o ran iechyd y cyhoedd, lle ceir angen a galw am weithredu, ond diffyg tystiolaeth glir i ryw raddau.

Mae’r canfyddiadau’n dangos, er bod Brexit yn dwyn ansicrwydd a her sylweddol i’r sector pysgota, bod llawer o achosion sylfaenol gorbryder ymhlith pysgotwyr yn hirsefydlog. Mae barn y rhanddeiliaid a’r dystiolaeth ryngwladol yn ategu’r angen am ddull ataliol sy’n cynnwys gweithredu i atal yr ansicrwydd a’r her sy’n deillio o adfyd, diogelu rhag yr effaith bosibl ar iechyd a lles meddyliol, a hybu iechyd a lles meddyliol ymhlith cymunedau pysgota yn y tymor hwy – i gefnogi sector pysgota gwydn ar gyfer y dyfodol.

Wrth ystyried sut orau i hybu iechyd a lles meddyliol ymhlith pysgotwyr, dim ond nifer fach o raglenni oedd wedi cael eu gwerthuso i ryw raddau, ond astudiaethau peilot bychain oedd y rhain gan mwyaf ac nid oeddent yn archwilio’r prif ddeilliant – iechyd a lles meddyliol ymhlith pysgotwyr – yn ddigonol. Er ein bod yn cydnabod, o ystyried yr amser oedd ar gael, nad ydym wedi nodi’r holl astudiaethau yn y maes hwn o bosibl, nid oes digon o dystiolaeth i ddod i gasgliad ynghylch un rhaglen effeithiol i gefnogi iechyd a lles meddyliol ymhlith pysgotwyr. Fodd bynnag, ceir gwersi trosglwyddadwy i lywio’r broses o weithredu ystod o ddulliau sydd wedi’u targedu at fynd i’r afael ag iechyd a lles meddyliol ymhlith cymunedau pysgota yng Nghymru. Dylai cydgynhyrchu a gwerthuso fod yn ganolog wrth roi unrhyw ddull ar waith, ac mae cyfle i Gymru fod yn arloeswr yn y maes hwn.