Mwy na hanner y tadau newydd mewn astudiaeth bêl-droed yn teimlo nad oes ganddynt gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl
Y Sefydliad Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Tadolaeth yn cynhyrchu’r canllaw ‘Dod yn Dad’ i gefnogi tadau newydd
Ychydig iawn o gymorth sydd ar gael i dadau newydd wrth iddynt wynebu’r heriau a ddaw yn sgil bod yn dad yn ôl adroddiad y prosiect Tadau a Phêl-droed, a gyhoeddir heddiw (Dydd Gwener 19 Tachwedd) i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dynion.
Crëwyd Tadau a Phêl-droed, prosiect 2 flynedd a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, er mwyn cefnogi tadau newydd mewn ymateb i’r ddarpariaeth annigonol sydd ar gael ar hyn o bryd.
I ddechrau, daethpwyd â'r tadau at ei gilydd trwy eu cariad at y gêm brydferth ac i chwarae pêl-droed 5 bob ochr - ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gemau pêl-droed oherwydd y pandemig a chawsant eu disodli'n gyflym gan sesiynau cymorth cymheiriaid ar-lein. Ymunodd tadau a chwaraewyr o Ddinas Caerdydd, gan gynnwys Will Vaulks (a oedd yn ddarpar dad ar y pryd), â'r grwpiau i drafod sut roedd y newid bywyd wedi effeithio arnyn nhw. Ymgynghorwyd hefyd â 91 o dadau ynghylch eu barn trwy arolwg ar-lein.
Canfu’r arolwg a gynhaliwyd drwy’r prosiect Tadau a Phêl-droed fod 70% o dadau eisiau mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl wrth ddod yn Dad. Mewn ymateb i'r angen a fynegwyd gan dadau, ymunodd y Sefydliad â'r Sefydliad Tadolaeth i greu 'Dod yn Dad', canllaw defnyddiol ar gyfer tadau newydd sy'n cynnwys yr ymchwil a'r wybodaeth fwyaf diweddar, llawer o awgrymiadau ymarferol, cyngor a chyfeiriadau i lawer o sefydliadau a all helpu pan fydd materion amrywiol yn codi.
Mae’r canllaw ‘Dod yn Dad’ i’w gael am ddim a gellir ei lwytho i lawr yma https://www.mentalhealth.org.uk/cy/publications/dod-yn-dad
Diwedd
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Mae’r adroddiad Tadau a Phêl-droed i’w gael yma https://www.mentalhealth.org.uk/cy/publications/prosiect-tadau-ph%C3%AAl-droed
Mae cyfweliadau gyda siaradwyr arbenigol a’r rhai a gymerodd ran yn y prosiect Tadau a Phêl-droed ar gael ar gais.
Cwblhaodd 91 o gyfranogwyr yr arolwg ar-lein
Sefydlwyd Consortiwm Ymchwil, yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw ym maes iechyd meddwl amenedigol, i rannu tystiolaeth a gwybodaeth, i ddeall lle mae'r bylchau mewn ymchwil ac i weithredu fel panel cynghori a ffrind beirniadol i'r prosiect.
- Adrienne Burgess, Y Sefydliad Tadolaeth
- Dr Iryna Culpin, Prifysgol Bryste
- Dr Kate Ellis-Davies, Prifysgol Abertawe
- Sharon Fernandez, Arweinydd Iechyd Meddwl Amenedigol, GIG Cymru
- Suzy Hodgson, Prifysgol Sheffield Hallam
- Yr Athro Ian Jones, Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd
- Dr Anna Machin, Ymchwilydd, ac awdur, ‘Life of Dad’
- Yr Athro Andrew Mayers, Prifysgol Bournemouth
- Yr Athro Paul Ramchandani, Prifysgol Caergrawnt
Daeth Grŵp Hyrwyddwyr Tadau, sy'n cynrychioli croestoriad eang o sefydliadau uchel eu parch sy'n gweithio gyda ac ar gyfer tadau ledled y DU, yn rhan o bethau hefyd er mwyn cynyddu dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen ar dadau.
I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais am gyfweliad cysylltwch â Natalie Sadler, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata ar gyfer Cymru yn y Sefydliad Iechyd Meddwl ar e-bost [email protected] neu Dr Jeremy Davies, Pennaeth Cyfathrebu’r Sefydliad Tadolaeth, [email protected]
Ar gyfer ymholiadau brys y tu allan i oriau ffoniwch y Sefydliad Iechyd Meddwl ar 07702 873999. Rhif y Sefydliad Tadolaeth yw 0780 3711692.
Gwybodaeth am y Sefydliad Iechyd Meddwl
Ein gweledigaeth yw iechyd meddwl da i bawb
Mae’r Sefydliad iechyd Meddwl yn gweithio er mwyn atal problemau iechyd meddwl.
Rydym yn gyrru newid tuag at gymdeithas sy’n iach yn feddyliol i bawb, a chefnogwn gymunedau, teuluoedd ac unigolion i fyw bywydau sy’n iachach yn feddyliol gan ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Y Sefydliad yw cartref Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.