Gofalu am eich iechyd meddwl wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cloi
Adolygwyd y dudalen ar 11 Medi 2020
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhan o'r ymateb iechyd meddwl cenedlaethol yn ystod yr achosion o coronafeirws. Mae cyngor y llywodraeth, sydd wedi'i gynllunio i'n cadw ni'n ddiogel, yn cael ei adolygu'n gyson a bydd yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw: mwy o fanylion a’r wybodaeth ddiweddaraf.
I lawer ohonom, mae llacio’r cyfnod cloi yn dod â chyfleoedd rydym wedi bod yn dyheu amdanynt (hyd yn oed o bellter cymdeithasol) – gweld ffrindiau, cymryd rhan mewn chwaraeon, cael cysylltiad â theulu, mewn ‘lle go iawn’, unwaith eto neu fynd yn ôl i’r gwaith rydym yn ei werthfawrogi.
Ond i lawer ohonom, gall y newidiadau hapus y bu disgwyl cyhyd amdanynt fod yn anodd i’n hiechyd meddwl.
Ac i lawer o rai eraill gall y syniad o ddod allan o’r cyfnod cloi, tra bod y ddadl ynghylch yr wyddoniaeth sy’n cefnogi hynny dal yn fyw, fod yn bryder mawr. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol i’r rhai sydd mewn mwy o berygl o gael y feirws a’r rhai hynny ohonom sydd phryderon iechyd meddwl.
Pobl sy’n cysgodi neu sy’n fwy agored i berygl
I’r rhai hynny sy’n cysgodi, bach iawn fu’r llacio ar y mesurau cloi, er y bydd y llywodraeth yn adolygu’r canllawiau ar gyfer pobl sy’n cysgodi ar ddiwedd Mehefin
Fodd bynnag, gofynnwyd iddyn nhw ofalu mwy am eu hunain er mwyn lleihau’r risg o gael y feirws. I’r grwpiau hyn yn benodol, gallai fod yn anodd gweld eu bywyd yn mynd yn ôl i unrhyw beth sy’n debyg i ‘normal’ am amser llawer hirach.
Felly ble mae’r heriau i’n hiechyd meddwl wrth ddod allan o’r cyfnod cloi, a beth allwn ni wneud yn eu cylch?
Beth yw’r heriau iechyd meddwl, a beth allwn ni ei wneud?
Dylem fod yn barod am y ffaith y gallai diwedd y cyfnod cloi fod mor anodd i ni ag oedd y dechrau.
Yn union fel y cymerodd amser i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi yn ystod y cyfnod cloi, dylem hefyd ddisgwyl y bydd yn cymryd amser i ni ddod o hyd i’n ffordd yn ôl, ac i ailgysylltu â bywyd.
Mae ein cynghorion iechyd meddwl: ynglŷn â dod o hyd i drefn dyddiol, cadw mewn cysylltiad, bwyta’n dda ac ymarfer corff yr un mor berthnasol nawr ag yr oeddent ar ddechrau’r cyfnod cloi –yn fwy perthnasol efallai wrth i ni barhau mewn cyfnod o straen uchel ond gyda mwy o alwadau arnom.
Oherwydd bod ein sefyllfaoedd yn unigryw i ni, mae’n bwysig iawn ceisio peidio â barnu’n hunain yn llym ar sail yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud. Mae pawb yn wynebu ansicrwydd a her – ac nid oes gennym ddewis ond symud drwyddo gystal ag y gallwn.
Rheolwch yr hyn y gellir ei reoli – mae llawer o bethau na allwch eu rheoli sy’n achosi ofn a gofid i chi – ond mae rhai pethau y gallwch eu rheoli neu gynllunio ar eu cyfer. Gall cael cynllun gweithredu ar gyfer rheoli’r pethau y gallech eu cael yn anodd fod o help.
Ewch ar gyflymder addas – mae cydnabod bod angen i chi fynd ar y cyflymder sy’n iawn i chi yn bwysig. Peidiwch â gadael i eraill eich bwlio neu roi pwysau arnoch i wneud pethau