Blwyddyn o covid: colled ac ennill

Page last reviewed: 25 February 2021

Dros y 12 mis diwethaf, mae pandemig y Coronafeirws wedi llenwi’r penawdau, dal ein dychymyg, tanio’n hofnau, a chreu, bwydo a chwyddo ystod eang o emosiynau, a oedd, i lawer ohonom, yn gwbl newydd.
 
Mae ein hastudiaeth "Iechyd Meddwl yn y Pandemig" wedi dangos yn eglur bod cyfnodau clo wedi bod yn anodd iawn i lawer ohonom. Po hiraf oedd y cyfnod clo yn para, roedd ein gallu i ymdopi yn lleihau, ac i rai a oedd yn profi heriau ychwanegol, megis diweithdra, tarfu ar addysg, addysg gartref neu unigedd, maent wedi bod yn amseroedd anodd iawn. 
 
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi colli anwyliaid ac, wrth brofi tarfu yn y rhan fwyaf o'r rhannau “normal” o'n bywydau, rydym hefyd wedi colli rhannau o’n hunaniaeth. I rai, bu’n flwyddyn o fyfyrio, tyfu a mewnsyllu. I eraill, daeth cyfleoedd ar gyfer arferion newydd, arloesi, gwirfoddoli a charedigrwydd. Yn dilyn blwyddyn a fydd, yn ddi-os, yn bennod ar ei phen ei hun yn ein cyd-ymwybyddiaeth emosiynol, dyma dair stori bersonol sy’n myfyrio ar golled ac ennill.

Stori Sam

Sam ydw i, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Cynorthwywr Polisi a Materion Cyhoeddus yn y Sefydliad Iechyd Meddwl. Er bod pandemig y coronafeirws wedi tynnu sawl peth oddi ar lawer o bobl, un peth nad oeddwn yn disgwyl iddo ei dynnu oddi arnaf oedd fy swydd. Yn fy swydd flaenorol, roeddwn yn weithiwr dim oriau a chefais wybod, yn anffodus, nad oedd oriau gwaith ar fy nghyfer a bod y cwmni yn fy rhoi ar ffyrlo. 
 
Daeth yr alwad ffôn yn y pen draw, ac ym Mehefin 2020 dywedwyd wrth y gweithwyr i gyd bod y cwmni’n cau yn barhaol a’n bod ni i gyd yn cael ein diswyddo. Rywsut, er fy mod yn meddwl fel arall, nid oedd yr anobaith torfol o bawb yn colli eu swyddi ar yr un pryd yn helpu i leddfu’r teimlad bod y bydysawd yn fy nhargedu i’n bersonol. 
 
Gyda 60 cais am swydd a dim ond un cyfweliad, daeth yn anodd cofio mai wedi colli fy swydd oeddwn i, nid fy mhwrpas. Nawr, rwy’n ddyn breintiedig. Rwy’n wyn, wedi cael addysg dda, ac mae gennyf gyfoeth o rywdweithiau cefnogaeth ariannol ac emosiynol o’m hamgylch. Fe wnaeth hynny fy nghaniatáu i ailddarganfod fy mhwrpas trwy wirfoddoli. Pan gododd y cyfle am leoliad gwirfoddol diwrnod yr wythnos gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl,  fe’i cymrais. 
 
Colli fy swydd oedd y peth anoddaf rwyf wedi mynd drwyddo erioed, ac roedd y gwrthod cyson yn flinedig yn feddyliol a chorfforol, ond roedd hefyd yn brofiad a wnaeth i mi fod yn hynod ostyngedig a diolchgar am yr holl bethau rwy’n ffodus o’u cael, a hyd yn oed yn fwy angerddol dros helpu’r rhai nad ydynt yn yr un sefyllfa. Rwy’n ddiolchgar am y ffydd a ddangosodd y Sefydliad Iechyd Meddwl ynof wrth fy nghyflogi, ac rwyf hyd yn oed yn fwy diolchgar am y cyfle i geisio helpu pobl eraill bob dydd.

Stori Marwah

Mae wedi bod yn flwyddyn o bethau a gollwyd, a ohiriwyd ac a ganslwyd – pen-blwyddi, priodasau, genedigaethau, gwyliau a sawl gŵyl.
Fodd bynnag, yr hyn rydw i wedi ei ennill eleni, yw amser â mi fy hun. 
 
Yn y cyfnodau gwerthfawr rhwng gwaith a chwsg roeddwn i’n arfer gwasgu amser cymdeithasol gyda ffrindiau a theulu, gigiau a sioeau, ffitrwydd, gwaith tŷ a gweinyddu fy mywyd. Mewn cymdeithas sy’n rhoi bri ar fod yn brysur, rwyf wedi cael blwyddyn o lonyddwch, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.  
 
Does dim ffilter Instagram sy’n gallu lliwio’r ffaith mod i wedi gwneud dim. Mewn cyfnod o gymaint o ansicrwydd, dydw i ddim wedi gallu tynnu fy sylw fy hun er mwyn pasio’r amser – rwyf wedi gorfod bod yno i mi fy hun, gofalu amdanaf fy hun, ac ail-ddysgu sut i dreulio amser o ansawdd â mi fy hun. 
 
Fel plentyn, ro’n i’n gallu diddanu fy hun am ddyddiau cyfan gyda phensil a phapur sgrap o ddrôr fy nhad. Gyda’r holl amser ar fy nwylo eleni, rwyf wedi dysgu llawer gan fy hun fel plentyn yn ogystal â gan y plant a’r bobl ifanc o ‘nghwmpas. Nid pawb sydd wedi cael y moethusrwydd o fwy o amser ar eu pennau eu hunain, ac nid yw pawb sydd wedi bod ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfnod hwn sydd wedi cael y fraint o’i ystyried fel moethusrwydd.  Ond mae gan bob un ohonom ein hunain, ac weithiau rydyn ni oll yn anghofio sut i ddim ond ‘bod’. Felly, cyn i mi eich gadael, dyma un o fy hoff ddyfyniadau o’m plentyndod. 

Stori Bethan

Rhybudd sbarduno: mae’r stori hon yn sôn am hunan-niweidio
 
O ganlyniad i’r pandemig, rydw i wedi byw mewn tri gwahanol gartref yn y 12 mis diwethaf. Rwy’n gwybod nad yw fy stori yn anghyffredin yn y pandemig ond mae’n anhygoel o freintiedig o gymharu ag eraill. 
 
Nôl ym mis Mawrth 2020, cefais fy rhoi yn y categori bregus yn feddygol. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i fy mhartner wneud penderfyniad cyflym naill ai i symud i mewn dros dro ataf fi a fy nghyd-letywyr neu aros yn ei gartref presennol a pheidio â fy ngweld nes y byddai’r cyfnod clo yn dod i ben.
 
Fe baciodd ei fagiau’n gyflym a symud i mewn. Roedd fy nghyd-letwyr yn gefnogol a chroesawgar, ond, ar ôl dau fis o dreulio cyfnod clo gyda chwpwl, roeddent yn canfod ei fod yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
 
O ganlyniad, gwnaethom y penderfyniad i symud i dŷ fy mhartner am weddill y cyfnod clo. Tra roeddem yn fy nhŷ i, llithrodd cydletywr fy mhartner yn ôl i fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau a gadawodd y tŷ dan amgylchiadau trist iawn. 
 
Sylwais fod colli fy nghartref yn ystod pandemig byd-eang, ar ben trasiedi cydletywr fy mhartner, wedi fy ansefydlogi’n sylweddol. Ro’n i’n teimlo bod ei dŷ’n llawn o fwganod ac ro’n i’n profi teimladau o ddadleoliad a sbardunodd fy PTSD. Roeddwn yn cael pyliau o banig, yn hunan-niweidio ac o dan straen eithafol – a arweiniodd at orfod peidio â mynd i’r gwaith oherwydd salwch.
 
Saith mis yn ddiweddarach, rwyf dal yn hiraethu am orllewin Llundain, ond rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar. Erbyn hyn rwy’n byw mewn cartref newydd diogel yng ngogledd Llundain, yn rhydd o gamdriniaeth, mewn perthynas iach a gyda fy nau fochyn cwta. Efallai nad dyna’r oeddwn wedi’i gynllunio, ond o ystyried popeth rwy’ wedi cael profiad ffodus iawn yn y pandemig.  

Casgliad

Mae'r straeon teimladwy hyn yn datgelu sut y gwnaethom brofi colled, profedigaeth, newid, twf, anobaith, gobaith, dros 12 mis. O golled daeth gobaith. O unigedd, daeth cysylltiad. O newid, daeth arloesedd. O drawma, daeth twf. 
 
Yr hyn sy'n hollol bwysig i'w gofio yw na chafodd profiad y flwyddyn ddiwethaf ei rannu gan bawb. Rydym oll wedi bod yn yr un storm, ond nid ydym oll wedi bod yn yr un cwch. Mae'r brechlyn Coronafeirws yn dod â gobaith. Mae'r tywydd cynhesach yn dod â gwenau. Fodd bynnag, i lawer ohonom, bydd yr ychydig fisoedd, a hyd yn oed blynyddoedd, nesaf yn parhau i fod yn anodd, yn fregus ac yn ansicr.
 
Mae'r brechlyn Coronavirus yn dod â gobaith. Mae'r tywydd cynhesach yn dod â gwenau. Fodd bynnag, i lawer ohonom, bydd yr ychydig fisoedd nesaf - a hyd yn oed flynyddoedd - yn parhau i fod yn anodd, yn agored i niwed ac yn ansicr. 
 
Mae effaith lles y pandemig yma i aros. Gall unrhyw un ohonom brofi problem iechyd meddwl. Ond nid yw'r risg wedi'i dosbarthu'n gyfartal. I lawer o bobl, bydd hapusrwydd a “normalrwydd” yn dychwelyd yn gyflym. I eraill, sydd wedi colli perthnasau, swyddi, neu rannau o'u hunaniaeth eu hunain, bydd adferiad yn cymryd llawer mwy o amser. Os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, yr angen i ni ddechrau ailadeiladu dyfodol wedi'i wreiddio mewn caredigrwydd, cydraddoldeb ac empathi dros y misoedd nesaf yw hynny.