Meithrin ein perthnasoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws
Adolygwyd y dudalen ar 25 Awst 2020
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhan o'r ymateb iechyd meddwl cenedlaethol yn ystod yr achosion o coronafeirws. Mae cyngor y llywodraeth, sydd wedi'i gynllunio i'n cadw ni'n ddiogel, yn cael ei adolygu'n gyson a bydd yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw: mwy o fanylion a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r argyfwng coronafeirws yn newid ein bywydau mewn ffyrdd dramatig, yn cynnwys ein perthnasoedd â phobl eraill yn ein cymunedau, ein teuluoedd, ein cartrefi a’n gweithleoedd.
Mae miliynau ohonom wedi colli rhai neu ein holl ffyrdd arferol o weld eraill wrth i ni geisio cadw ein gilydd yn ddiogel.
Mae llawer ohonom hefyd wedi canfod ein hunain yn treulio llawer mwy o amser nag arfer gyda’r rhai sy’n rhannu ein cartrefi, boed yn deulu, cyd-letywyr neu’r ddau – heb sôn am anifeiliaid anwes.
Gall colli’r cyswllt arferol â phobl a bod mewn cyswllt llawer agosach nag arfer ar y llaw roi straen arnom a gall fod yn ofidus, yn ddychrynllyd neu hyd yn oed yn annioddefol.
Amser ar gyfer amynedd a dealltwriaeth
Mewn cyfnod pan rydym oll yn wynebu ansicrwydd a phryder am y coronafeirws, mae’n anoddach ymdopi â newidiadau o’r fath i’n perthnasoedd. Felly mae’n werth ymdrechu i fod yn fwy amyneddgar a deall, gyda’n gilydd a’n hunain.
Er mwyn gwneud hynny, mae arnom angen i bobl o’n cwmpas a’n hunain fod yn ymwybodol o sut mae’r hyn rydym yn ei wneud yn effeithio ar ein gilydd. Mae’n debygol y bydd rhai o’n perthnasoedd dan straen – ond er lles ein cymunedau, dylem geisio aros gartref drwy hynny.
Pump o gynghorion cyflym ar gyfer meithrin perthnasoedd iach
Mae llawer o’r cynghorion ar gynnal perthnasoedd da yr un mor bwysig a pherthnasol yn awr ag yr oeddent cyn coronafeirws. Er enghraifft, mae pob un o bum awgrym gorau’r Sefydliad Iechyd Meddwl ar gyfer meithrin perthnasoedd iach yr un mor bwysig nawr ag o’r blaen:
- Rhowch amser – neilltuwch fwy o amser i gysylltu â’ch ffrindiau a’ch teulu
- Byddwch yn bresennol – mae hyn yn golygu rhoi sylw gwirioneddol i’r bobl eraill yn eich bywyd a cheisio peidio â gadael i’r ffôn, gwaith neu ddiddordebau eraill fynd â’ch sylw
- Gwrandewch – gwrandewch go iawn ar yr hyn mae eraill yn ei ddweud a cheisiwch ei ddeall a chanolbwyntio ar eu hanghenion yn y foment honno
- Gadewch i rywun wrando arnoch – rhannwch yn onest sut rydych yn teimlo, a gadael i eraill eich clywed a’ch cefnogi
- Cydnabyddwch berthnasoedd afiach – gall perthnasoedd niweidiol ein gwneud yn anhapus. Gall cydnabod hyn ein helpu i symud ymlaen a dod o hyd i atebion.
Yn ystod yr amser rhyfedd ac anodd hwn, mae hefyd yn werth ystyried ffyrdd ychwanegol o warchod ein perthnasoedd, a cheisio ymdopi ychydig yn well â rhai o’r problemau perthynas y mae’r feirws yn eu creu.
Amser i gadw mewn cysylltiad
- Rhowch gynnig ar ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad – defnyddiwch ffonau, cyfrifiaduron a’r post i gadw mewn cysylltiad. Gall clywed llais cyfarwydd, cyfeillgar, neu ddarllen neges gan bobl sy’n annwyl i ni, ein helpu i deimlo mwy o gyswllt. Mae hyn yn bwysig ar gyfer ein hiechyd meddwl, ac yn enwedig i bobl sy’n byw ar ben eu hunain, a allai fod yn teimlo’n unig, wedi’u hynysu ac yn ofnus am yr hyn sy’n digwydd.
- Helpwch y rhai hynny sy’n llai hyderus gyda thechnoleg – dydy pob un ohonom ddim yn teimlo’n hyderus neu gyfforddus yn gwneud galwadau fideo megis Skype, Zoom a WhatsApp ond, fel gyda galwadau ffôn, gall gweld wyneb cyfarwydd a chyfeillgar helpu’r ddwy ochr deimlo mwy o gyswllt. Gallai hwn fod yn amser pan fydd pobl ieuengach yn ein teuluoedd yn gallu helpu perthnasau hŷn i ddefnyddio’r rhyngrwyd, a rhai o’r ffyrdd y mae’n ein galluogi i gadw mewn cysylltiad.
- Gwnewch gysylltiadau newydd – efallai bydd rhai ohonom fod eisiau estyn allan tu hwnt i’r bobl rydym yn eu hadnabod eisoes, er mwyn gwneud cysylltiadau newydd â phobl eraill. Mae cymunedau ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer hyn a gallant fod yn hynod gefnogol, er ei bod yn werth cofio nad ydynt bob amser yn llefydd diogel. Mae yna nifer helaeth o gymunedau ar-lein allan yna a gallai hwn fod yn amser da i ddarganfod rhai sy’n apelio atoch. Fe welwch gymunedau sy’n amrywio o rai â diddordebau cyffredinol i rai â diddordebau mwy penodol sy’n canolbwyntio ar feysydd arbennig megis pêl-droed, cyflyrau iechyd penodol, ffitrwydd, coginio, perthnasoedd a cherddoriaeth.
- Ymunwch â chymuned ar-lein i drafod eich iechyd meddwl – un gymuned gefnogol ar gyfer y rhai ohonom sy’n profi problemau gyda’n hiechyd meddwl yw Elefriends gan Mind. Rydym oll yn gwybod sut beth yw cael trafferthion weithiau ac mae Elefriends yn cynnig lle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed.
Amser i ymuno â’n gilydd i gefnogi eraill
Mae bod yn rhan o ymdrechion lleol i gefnogi pobl sy’n fwy bregus yn ystod y sefyllfa coronafeirws yn dda i’r rhai sy’n helpu yn ogystal ag i’r bobl y maent yn eu cefnogi. Dyma ragor o wybodaeth am effeithiau ysbrydoledig helpu pobl eraill yn ein cymunedau a thu hwnt – ac am lawenydd gweithredoedd caredig.
Amser i greu sicrwydd
- Cytuno ar bwy sy’n defnyddio pa rannau o’r cartref a phryd – i’r rhai ohonom sy’n byw gyda phobl eraill ac sy’n teimlo’n bigog neu wedi ein llethu gyda’r agosrwydd parhaus, gallai helpu i gytuno ar bwy sy’n mynd i ddefnyddio pa rannau o’r cartref – er enghraifft yn ystod y dydd, pan mae arnom angen gweithio a/neu edrych ar ôl plant.
- Gwnewch y defnydd gorau o’r gofod sydd gennych – gall hyn ymwneud â chynllunio eich diwrnod, rhannu neu newid y defnydd o ofod, bod yn ymwybodol o anghenion eraill neu wneud pethau ychydig yn wahanol.
- Rhannwch y gwaith tŷ – gallai fod o gymorth i rannu tasgau megis golchi llestr, glanhau a siopa bwyd. Gall cael trefn ddyddiol ein helpu i deimlo bod gennym fwy o reolaeth ar bethau ar adeg pan rydym wedi colli rheolaeth ar ein bywydau dyddiol.
Amser i barhau i siarad a gwrando
- Gwnewch amser bob dydd i fynegi – efallai y byddwch yn cytuno ar amser bob dydd pan fydd pawb yn eich cartref yn gallu dweud sut maen nhw’n teimlo – er enghraifft, gallai fod yr hyn sydd wedi bod anoddaf i ni, a’r hyn rydym yn ddiolchgar amdano, ar y diwrnod hwnnw.
- Gwnewch le i rannu a gwrando heb feirniadaeth – gall rhannu teimladau, heb ofni beirniadaeth neu gerydd, ein helpu i deimlo’n dawelach ac agosach at ein gilydd. Efallai y bydd yn help i gofio bod y sefyllfa coronafeirws yn effeithio ar bawb ac efallai eu bod yn teimlo’n fwy pryderus a phigog nag arfer.
Mae ein canllaw ar gyfer cefnogi rhywun â phroblem iechyd meddwl yn cynnwys adran am ‘siarad am iechyd meddwl, a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer siarad â phobl sy’n arbennig o ofidus am sefyllfa coronafeirws a’i chael yn anodd ymdopi â bywyd bob dydd.
Cofiwch, fe fydd y cyfyngiadau hyn yn dod i ben, ond yn y cyfamser rydym yn mynd i fod yn gorfforol agosach i rai ac yn bellach oddi wrth eraill. Er mwyn dod drwy hyn, mae angen i bob un ohonom siarad, gwrando a gofalu am ein gilydd, gan adeiladu ar yr hyn ddaeth â ni at ein gilydd a beth rydym eisiau ei weld yn y dyfodol.