Cyngor gan y pedair gwlad ar y pandemig coronafeirws
Yma rydym yn eich tywys trwy’r canllawiau iechyd cyhoeddus diweddaraf ar yr hyn y dylech fod yn ei wneud yn ystod yr achosion o coronafeirws a’u cyflwyno ar sail y manylion penodol ar gyfer pob gwlad.
Adolygwyd y dudalen ar 21 Rhagfyr 2020
Mae’n bwysig nodi bod llywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cymryd gwahanol gamau ar gyfer eu dinasyddion, yn rhannol oherwydd eu bod yn credu y bydd lefel yr haint, ac felly lefel y risg, yn wahanol.
Mae’r awdurdod priodol ar gyfer pob gwlad wedi nodi camau allweddol, rydym wedi defnyddio union eiriad arweiniad pob gwlad isod:
Cymru
Diogelu Cymru:
- arhoswch gartref
- cyfarfod pobl yr ydych yn byw gyda nhw yn unig
- cadw pellter cymdeithasol
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd
- gweithiwch o gartref os gallwch
Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4. Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.
Dylech hunanynysu os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau.
Os oes gennych symptomau, dylech gael prawf.
Gellir gweld y manylion llawn yn llyw.cymru
Lloegr
Mae tri cham syml y mae'n rhaid i ni i gyd eu gwneud i ddal ati i ddiogelu ein gilydd
- Golchwch eich dwylo
daliwch ati i olchi'ch dwylo'n rheolaidd
- Gorchuddiwch eich wyneb
Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau caeedig
- Gwnewch le
Cadwch o leiaf 2 fetr ar wahân – neu o fewn 1 metr gyda gorchudd wyneb neu ragofalon eraill
Cyfyngiadau newydd yn Lloegr o 19 Rhagfyr: mwy o wybodaeth
Yr Alban
Mae rheolau newydd yn golygu na ddylech ymweld ag aelwydydd eraill dan do. Er mwyn cadw'n ddiogel ac amddiffyn eraill, dilynwch y rheolau llymach hyn nawr. O 25 Medi, rhaid i dafarndai, bariau a bwytai gau am 10pm. Darllenwch fwy am y mesurau newydd. Fe ddylech chi wneud y canlynol:
- gwisgo gorchudd wyneb
- osgoi lleoedd gorlawn
- glanhau dwylo ac arwynebau yn rheolaidd
- aros 2m i ffwrdd oddi wrth bobl eraill
-
hunanynysu ac archebu prawf os oes gennych symptomau COVID-19 (peswch parhaus newydd, twymyn, colli, neu newid yn, eich gallu i arogli neu flasu)
Lefelau diogelu COVID: Gwiriwch y lefelau diogelu ar gyfer eich ardal chi a darganfod yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud ar bob lefel.
Gogledd Iwerddon
Canllawiau rheoliadau Coronafeirws (COVID-19): beth mae'r cyfyngiadau yn ei olygu i chi.
Yn dilyn cynnydd mewn achosion coronafeirws (COVID-19), bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i bobl yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Rhagfyr. Mae'r cyfyngiadau newydd hyn yn cael eu rhoi ar waith i helpu i leihau lledaeniad coronafeirws ac i helpu i reoli'r pwysau ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ystod yr amser hwn, y cam pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd yw aros gartref. I gael mwy o wybodaeth am y rheolau sydd ar waith rhwng dydd Mercher 23 Rhagfyr a dydd Sul 27 Rhagfyr, mae canllawiau Nadolig ar y ddolen hon: Canllawiau rheoliadau Coronafeirws (COVID-19): y cyfyngiadau ar gyfer y Nadolig