Byw gyda’r pandemig os oes gennych broblemau iechyd meddwl eisoes

Adolygwyd y dudalen ar 25 Awst 2020

Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhan o'r ymateb iechyd meddwl cenedlaethol yn ystod yr achosion o coronafeirws. Mae cyngor y llywodraeth, sydd wedi'i gynllunio i'n cadw ni'n ddiogel, yn cael ei adolygu'n gyson a bydd yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw: mwy o fanylion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Gall pandemig COVID-19 fod yn arbennig o heriol i’r rhai hynny ohonom â phroblemau iechyd meddwl – lle bynnag yr ydym ar y daith honno. 

Os ydym yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, efallai y bydd yn anoddach i ni gael cefnogaeth, ac os ydym yn ymdopi’n dda y rhan fwyaf o’r amser, efallai y bydd yn anoddach dilyn ein ffyrdd arferol o ymdopi.   

Hefyd efallai, gall y pandemig – a’r pethau y gofynnwyd i ni eu gwneud i ymateb iddo – ysgwyd seiliau sefydlogrwydd neu adferiad y rhai hynny ohonom sy’n gwneud yn dda ar hyn o bryd neu wedi bod felly ers tipyn.   

Ar adeg fel hyn, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’n hiechyd meddwl a sut mae pethau arnom / sut rydym yn gwneud yn ddyddiol ac wythnosol. Gall adnabod pethau’n gynnar wneud dod yn ôl i drefn yn haws.  

Mae llawer ohonom yn ymdopi’n dda gan ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd trwy brofiad a chefnogaeth i ymdopi mewn argyfwng.   

Mae’n bwysig nad ydym yn tybio fod pawb sydd â phroblemau iechyd meddwl yn fregus neu’n methu ag ymdopi, gall hynny fod yn niweidiol a chreu stigma. 

Os ydych yn ei chael hi’n anodd ymdopi ar hyn o bryd ewch i’r dudalen hon i weld rhestr o linellau cymorth ac adnoddau.   

Pam allai COVID-19 fod yn broblem fawr i’r rhai hynny ohonom sydd â phrofiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl?   

Yn drist, mae’r rhai hynny ohonom sydd â phrofiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o brofi anghydraddoldeb a heriau o ran iechyd. 

Rydym yn fwy tebygol o fod wedi ein hynysu, rydym mewn mwy o berygl o gael cyflyrau iechyd eraill sy’n ein gwneud yn fwy agored i COVID-19 ac yn aml rydym yn ei chael hi’n anodd gofyn am gymorth a’i gael, hyd yn oed ar yr adegau gorau.   

Felly, beth yw rhai o’r prif bryderon? 

1. Mae llawer ohonom wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ffyrdd o fyw gyda gofid neu’r symptomau mewn ffordd sy’n caniatáu i ni weithredu gartref, yn y gwaith neu wrth astudio. Gall y pandemig ac ynysu cymdeithasol danseilio’r rhain neu ein gwneud yn agored  i argyfwng nes y byddwn yn darganfod ffyrdd newydd o ymdopi.   

2. Weithiau, gall y cyfyngiadau ar ein bywydau a’r adrodd ar y pandemig ar y cyfryngau wrthdaro yn erbyn profiadau a gawsom gydag iechyd meddwl.  

  • Os oes gennym heriau mewn perthynas â bwyd a bwyta, gall newid y math o fwyd neu’r patrwm bwyta a siopa beryglu ein hadferiad neu amharu ar dechnegau rydym wedi eu dysgu er mwyn cadw’n iawn.  

  • Gall negeseuon iechyd cyhoeddus a sylwebaeth y cyfryngau ar y pandemig fod yn sbardun i bobl sy’n cael obsesiynau neu feddyliau ymwthiol mewn perthynas â halogi neu ledaenu heintiau. Mae angen sloganau syml gaiff eu hailadrodd er mwyn berswadio pobl i ddilyn rheolau’r cyfyngiadau symud, ond gall ymadroddion fel ‘arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG ac achubwch fywydau’ effeithio’n sylweddol ar bobl os yw ein gofid wastad wedi gwneud i ni gredu y dylem weithredu er mwyn gwarchod eraill rhag heintiau ymledol y gallem eu lledaenu.   

  • Os ydym wedi gorfod aros yn yr ysbyty neu wedi ynysu ein hunain yn ein cartrefi yn y gorffennol, gall yr angen i aros gartref nawr ein hatgoffa o’r amseroedd hynny. Efallai y bydd y sylw a roddir gan y cyfryngau i bobl sy’n torri canllawiau’r llywodraeth, a gweithredoedd yr heddlu wrth eu gorfodi, wneud i rai ohonom deimlo ein bod yn cael ein gwylio neu’n fwy agored. Gallai hyn waethygu os ydym wedi cael cyswllt blaenorol â’r System Cyfiawnder Troseddol, neu os ydym wedi cael profiadau tebyg wrth gael ein cadw yn yr ysbyty. Mae Hearing Voices Network wedi datblygu adnodd ardderchog ar oroesi’r epidemig os ydych yn gweld pethau neu’n clywed lleisiau. 

  • Os ydym wedi profi trawma, yna gall ein ôl-fflachiau (flashbacks) fod yn gryfach neu ddigwydd yn amlach, ac efallai na fydd rhai o’r strategaethau ymdopi rydym yn eu defnyddio i ymdopi â nhw ar gael i ni mwyach.   

  • Yn yr un modd, os ydym yn cael trafferthion gyda hunan-niweidio neu gam-drin sylweddau, gall fod yn anodd ymwrthod ag ysfeydd. Efallai y byddwn yn teimlo nad yw adran argyfwng yr ysbyty yn opsiwn ar gyfer triniaeth argyfwng bellach – er ei bod. Efallai y byddwn yn poeni am beryglon diddyfnu o alcohol neu gyffuriau yn sydyn.   

  • Efallai na fyddwn yn gallu cael mynediad at ein rhwydwaith cefnogaeth arferol, gweld ffrindiau neu fynd at ein grŵp cefnogaeth cyfoedion/hunangymorth. Gall fod nad yw’r cartref yn le diogel.  

3. Mae gwasanaethau dan bwysau ac mae’r perthnasoedd proffesiynol, sy’n aml yn allweddol yn ein bywydau, yn newid ar hyn o bryd. Efallai y bydd ein cefnogaeth wedi newid ac efallai na allwn weld staff cefnogi cyfarwydd. Efallai ein bod hefyd yn poeni am gael mynediad at feddyginiaeth.  

4. Mae llawer o wasanaethau a chefnogaeth wedi symud i weithio ar-lein neu ar y ffôn ac efallai nad ydym yn gyfforddus â’r math hwn o gefnogaeth. I rai pobl mae galwadau fideo yn ddryslyd, a gall fod nad ydynt yn hoffi siarad ar y ffôn neu ei ateb. Gall eraill fod yn ddihyder  mewn perthynas â thechnoleg. Mae’n bwysig cydnabod, er bod cefnogaeth ar-lein, ar y ffôn neu drwy neges destun yn gallu bod yn wych i rai pobl, nid yw’n gweithio i bawb. Mae’n well gan rai pobl fod wyneb yn wyneb a gallant fod yn ei chael hi’n anoddach ar hyn o bryd gan fod llai o hynny ar gael.   

5. Efallai y byddwn yn teimlo bod ein pryderon, neu unrhyw ddirywiad yn ein hiechyd meddwl, yn ein gwneud yn fwy o faich ar ein hanwyliaid,  ar ein system gefnogi ac ar y GOG. Cafwyd llawer o negeseuon dryslyd ar y cyfryngau am hyn a phwy sy’n ‘haeddu’ gofal, ac, yn gwbl ddealladwy, fe allem fod yn pryderu na fydd adran ddamweiniau’r ysbyty na’r gwasanaethau argyfwng ar gael os bydd pethau’n mynd yn argyfyngus. 

Beth bynnag ydym yn ei deimlo, mae’n ddealladwy, os nad disgwyliedig, y bydd y cyfnod heriol hwn i’r byd yn effeithio’n sylweddol arnom. 

Mae hefyd yn amser dryslyd, oherwydd gallai rhai ohonom fod yn ymdopi’n well na’r disgwyl. Efallai ein bod yn gyfforddus ‘mewn argyfwng’ neu ein bod wedi arfer â bod wedi ein hynysu neu â chefnogaeth gyfyngedig, felly nid yw hyn yn teimlo’n wahanol iawn, eto. 

Pa gamau allem geisio’u cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl ar hyn o bryd? 

Mae yna lawer o gynghorion iechyd meddwl yn cael eu rhannu ar hyn o bryd, llawer ohonynt yn ddefnyddiol i’r rhai hynny ohonom â phroblemau iechyd meddwl. 

Wedi dweud hynny, gall rhai awgrymiadau ymddangos yn llethol neu du hwnt i’n cyrraedd – yn ariannol neu’n gymdeithasol.  Pethau fel dechrau hobi newydd, coginio bwydydd newydd neu dalu am danysgrifiadau neu brynu pethau i’w danfon i’r tŷ.  

Gall llawer o’r cyngor hwn ymddangos fel ei fod wedi ei anelu at bobl nad ydynt yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl fel arfer, felly gall ymddangos yn syml, neu fel nad yw wedi ei fwriadu ar ein cyfer. 

Bwriad y syniadau isod yw rhoi cychwyn arni. Mae gwneud beth bynnag y gallwn ac sy’n teimlo’n iawn, yn ddigon da.​ 

1. Ceisiwch wneud y pethau sylfaenol pan rydych yn gallu   

Mae bwyta, cysgu, symud (naill ai yn y tŷ neu’r tu allan) a sicrhau ein bod yn yfed digon o ddŵr  yn hanfodol ar gyfer bywyd, ac maent yn bwysig i’n hiechyd meddwl – ond gallant ymddangos yn llethol ar adeg fel hyn.   

Os gallwch gadw eich trefn ddyddiol, neu sefydlu un newydd, gallai ei gwneud yn haws i gadw’n iawn. Dydy gwneud hyn ddim yn hawdd.  Gallai ysgrifennu trefn ddyddiol yn y lle cyntaf helpu.  

2. Ceisiwch dderbyn eich bod yn haeddu cefnogaeth 

Mae’n anodd gofyn am help a gall fod yn anodd credu eich bod yn haeddu amser pobl. Gall hefyd fod yn anodd credu fod gennych bethau i’w cynnig.   

Rydych yn haeddu cefnogaeth. Ceisiwch fod yn garedig â chi eich hun. Mae hunandosturi yn bwysig bob amser – er y gall fod yn anodd.  

Mae gwasanaethau iechyd megis eich meddyg teulu a’r fferyllfa yn parhau i weithio. Hyd yn oed o dan bwysau, maen nhw dal yno i helpu, boed hynny gyda’ch iechyd meddwl neu iechyd corfforol. Peidiwch â dioddef yn dawel neu anwybyddu arwyddion cynnar a allai atal argyfwng.  

3. Ceisiwch wneud cynllun gyda’ch tîm cefnogi a’r gweithwyr proffesiynol  

Os ydych yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl neu sefydliadau eraill, gofynnwch iddyn nhw sut mae pethau’n newid yn ystod y pandemig.  

Mae staff iechyd meddwl yn wynebu’r un pwysau â thimau GIG eraill, gydag absenoldeb staff a’r angen i ganfod ffyrdd newydd o weithio. Er hyn, maen nhw dal yno.   

Os gallwch, ceisiwch ofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu egluro eich anawsterau, gofynnwch i ffrind neu aelod teulu eich helpu i egluro, neu ceisiwch ei ysgrifennu.   

Os oes rhaid i bethau newid a bod hynny’n anodd i chi, rhowch gyfle i’r ffordd newydd  – efallai y bydd yn iawn.   

Siaradwch â’ch meddyg teulu a’ch fferyllydd am bresgripsiynau a phrofion gwaed. Os oes rhaid i chi siarad ag asiantaethau eraill, fel y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau) neu eich landlord neu fanc, cofiwch y gallwch gael cyngor am eich hawliau o ystod o ffynonellau.  

4. Ceisiwch adeiladu cylch cefnogaeth  

Mae cylch cefnogaeth yn grŵp o bobl ac arfau rydych yn eu casglu o’ch cwmpas pan fydd pethau’n anodd.  Gall hynny fod yn gefnogaeth ymarferol neu emosiynol (fel rhywun i ofalu amdanoch chi neu’ch anifail anwes os nad ydych yn teimlo’n dda, rhywun allai siopa i chi os na allwch fynd eich hun, neu ffrind i anfon neges atoch bob bore i weld os ydych wedi codi). Gall cylch cefnogaeth ddigwydd wyneb yn wyneb neu’n ddigidol.   

5. Ceisiwch adeiladu a chynnal cysylltiadau, hyd yn oed pan fydd hynny’n ymddangos yn anodd  

Mae’r rhan fwyaf ohonom angen y cydbwysedd o fod ar ben ein hunain a bod ag eraill. Gall cael ein gorfodi i fod ar ein pennau ein hunain fod yn niweidiol, ac mae cyswllt â phobl eraill mor bwysig ar gyfer i’n hiechyd meddwl.  

Gall cysylltu â phobl ar-lein neu ar y ffôn fod yn gymorth mawr – ond gall hefyd fod yn llethol neu’n ddryslyd. Gall gymryd amser i ddarganfod sut mae gwahanol apiau neu arfau ar-lein yn gweithio a pha (os o gwbl) rai sy’n iawn i chi.  

Efallai eich bod yn gwybod am werth cymunedau ar-lein erioed a’ch bod yn gallu dibynnu ar ffrindiau ar-lein am gefnogaeth cyfoedion. Os oes gennych sgiliau y gallech eu rhannu, ystyriwch wneud hynny.   

6. Ceisiwch ddefnyddio’ch profiad o ymdopi yn y gorffennol   

Os ydych wedi cael problemau iechyd meddwl, mae siawns eich bod wedi bod trwy gyfnodau o fod wedi ynysu, o fod wedi encilio neu o gael eich herio. Efallai eich bod wedi synnu eich hun yn y gorffennol o ran yr hyn roeddech yn gallu ymdopi ag ef, hyd yn oed pan oedd yn ymddangos yn rhy ddychrynllyd i’w ystyried. Mae’n bryd cofio’r adegau hynny a defnyddio’r hyn a ddysgwyd.  

Efallai fod gennych gynllun, neu hyd yn oed focs o bethau rydych yn gwybod sy’n helpu pan fydd pethau’n anodd. Os nad oes gennych, a’ch bod yn teimlo’n iawn ar hyn o bryd, dyma’r amser i gasglu rhai pethau ynghyd efallai.   

Gallech gynnwys traciau ymlacio neu ymarferion anadlu, gweithgareddau fel lliwio, cerddoriaeth neu gemau fideo, neu wneud rhywbeth creadigol.  Gallech hyd yn oed adeiladu cuddfan neu le diogel yn y tŷ.  Mae yna lawer o ddigwyddiadau ‘am ddim’ ar hyn o bryd – theatr, teithiau rhithiol o amgueddfeydd ac ati – felly gallech ddarganfod rhywbeth sy’n mynd â’ch bryd.  

Ceisiwch wneud rhywbeth braf i chi’ch hun bob dydd a dathlu enillion bach – hyd yn oed os yw mor syml â golchi eich gwallt neu fynd allan am dro.   

7. Ceisiwch fynegi eich hun – i eraill ac yn breifat  

Mae’n gallu bod yn anodd mynegi’r hyn rydym yn ei deimlo pan fo pethau’n anodd. Gall dod â nhw i’r amlwg fod yn ddefnyddiol – boed ni yn eu rhannu neu beidio. Gallech gadw dyddlyfr preifat neu flog, defnyddio llyfr nodiadau, cyfryngau cymdeithasol neu gelfyddydau creadigol.  

Mae’n wych os oes gennych bobl y gallwch ymddiried ynddynt ond hyn yn oed os nad oes gennych, gall ysgrifennu pethau ac ailymweld â chi’ch hun helpu’n sylweddol.  Mae rhai pobl yn gweld cadw nodyn o’r pethau maen nhw’n ddiolchgar amdanynt, neu bethau maen nhw wedi eu dysgu, waeth pa mor fychan, yn ddefnyddiol iawn.   

Os ydych yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu flogiau, sicrhewch eich bod yn gwirio eich gosodiadau preifatrwydd ac ystyriwch pa mor gyfforddus ydych chi o ran rhannu cyn i chi bostio ar-lein.   

8. Ceisiwch gyfyngu ar faint o newyddion rydych yn ei weld a’i glywed  

Mae’r holl newyddion yn sôn am y coronafeirws ac fe allai hynny ychwanegu at ein poenau neu’n tuedd i gnoi cil, lle’r ydym yn cnoi cil ar bopeth sy’n ein pennau.   

Os yw hyn yn broblem i chi, ceisiwch wrando ar neu wylio un bwletin newyddion y dydd, yna diffoddwch a gwneud rhywbeth arall – er bod hyn yn anodd i bob un ohonom ar hyn o bryd.  

9. Ceisiwch fod yn y foment ​ 

Mae gan lawer ohonom bethau yn ein gorffennol sy’n effeithio ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau nawr. Mae llawer ohonom hefyd yn poeni am sut fydd pethau’n digwydd yn y dyfodol. Mae’r ddau beth yn bwysig– o ran deall ein bywyd a chynllunio – ond tra mae cyfyngiadau coronafeirws ar waith, gallai ceisio byw yn y presennol fod o gymorth. Cymerwch un dydd ar y tro os gallwch.   

Mae hyn yn golygu parchu’r gorffennol a’r hyn y mae’n ei olygu, ond byw a gweld pob munud, awr a dydd sy’n pasio fel cyfle, a cham arall tuag at ddiwedd y cyfyngiadau.    

Os gallwn faddau i ni’n hunain a gofalu am ein hunain – bydd hynny’n helpu. Drwodd yw’r unig ffordd.  

10. Ceisiwch fod yn rhan o’ch cymuned a helpu, os ydych yn gallu  

Os ydych yn teimlo’n iawn, efallai bod pethau y gallwch eu gwneud yn y gymuned i helpu – yn enwedig os ydych gartref. Gall mynd â chŵn cymdogion am dro, helpu i ddanfon bwyd neu wirfoddoli i fod yn rhan o flaengareddau cymunedol lleol fod yn ffyrdd gwych o roi rhywbeth yn ôl. 

Os oes gennych sgiliau TG, digidol neu greadigol, mae angen y rhain ar lawer o grwpiau cymunedol ac nid oes rhaid i chi godi allan er mwyn eu defnyddio. Mae ein hadnodd Mae Gwneud Daioni'n Dda i Chi yn egluro sut gall gwirfoddoli fod yn llesol i’n hiechyd meddwl.  

Cafodd y darn hwn ei awduro gan staff Y Sefydliad Iechyd Meddwl sydd â phrofiad o fyw â gofid a chafodd ei wella gan fewnbwn cyfoedion ar hyd a lled  y sefydliad. Rydym yn neilltuol ddiolchgar am gyngor adolygwyr allanol – yn benodol felly’r awgrymiadau gwerthfawr gan Akiko Hart, Prif Weithredwr NSUN. Mae NSUN yn cynnal ystod o flogiau ac adnoddau am fyw gyda gofid yn ystod y pandemig.