Dychwelyd i’r ysgol ar ôl cyfyngiadau symud y coronafeirws

Adolygwyd y dudalen ar 30 Gorffennaf 2020

Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhan o'r ymateb iechyd meddwl cenedlaethol yn ystod yr achosion o coronafeirws. Mae cyngor y llywodraeth, sydd wedi'i gynllunio i'n cadw ni'n ddiogel, yn cael ei adolygu'n gyson a bydd yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw: mwy o fanylion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae pandemig y coronafeirws a’r cyfyngiadau symud sydd wedi dod yn ei sgil yn sefyllfa na welwyd mo’i thebyg o’r blaen yn yr oes fodern. Mae’n anodd amgyffred effaith lawn y sefyllfa ar lesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 

Bydd profiadau disgyblion o’r cyfyngiadau symud yn amrywio’n helaeth. I rai, bydd wedi bod yn gyfnod diogel maen nhw wedi’i fwynhau ar y cyfan. I eraill, bydd wedi bod yn heriol neu’n drawmatig. Mae ysgolion ac athrawon wedi hen arfer helpu eu disgyblion drwy heriau maen nhw’n eu hwynebu yn ystod eu bywydau – ond bydd y sefyllfa bresennol yn chwyddo’r heriau hynny i raddau helaeth. 

Nod y canllaw byr hwn yw rhoi syniad o raddfa’r her mae ysgolion yn ei hwynebu a rhoi cymorth a chyngor ymarferol i athrawon er mwyn helpu plant pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol. 

Yr her sy’n wynebu ysgolion a disgyblion  

Fel athrawon ac arweinwyr ysgolion, mae’n debygol eich bod yn ymwybodol o’r profiadau cymhleth a thrawmatig y gallai disgyblion fod wedi’u cael yn ystod y cyfyngiadau symud, Fodd bynnag, mae’n werth nodi’r ystod lawn o heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth i ddisgyblion ddychwelyd, er mwyn pwysleisio bod angen amynedd, hyblygrwydd a chymorth ar y staff sy’n rheoli’r cyfnod pontio hwn. 

Er mai ychydig iawn o brofiad a thystiolaeth sydd gennym ar gyfer ymateb i sefyllfa ar y raddfa hon, mae’r dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu y bydd angen lefel uchel o gymorth bugeiliol, mesurau diogelwch a gwasanaethau llesiant pan fydd ysgolion yn ailagor. Mae rhai o’r heriau penodol wedi’u nodi mewn mwy o fanylder isod: 

Colled a phrofedigaeth 

Bydd perthnasau neu ffrindiau rhai o’r plant a’r bobl ifanc hyn wedi marw yn ystod y cyfyngiadau symud, o ganlyniad i’r coronafeirws neu salwch arall. Bydd mwy fyth wedi bod yn ymwybodol o berthynas neu ffrind sydd wedi bod yn ddifrifol wael neu’n sâl yn yr ysbyty. Bydd pobl ifanc eraill wedi wynebu gwahanol fath o golled – er enghraifft, rhieni ar absenoldeb ffyrlo neu wedi colli eu swydd; symud tŷ a/neu ysgol; neu fod ar wahân i ffigyrau pwysig yn eu bywydau, fel neiniau a theidiau, oherwydd y cyfyngiadau symud. 

Beth bynnag fo’r math o golled, bydd llawer ohonynt yn teimlo synnwyr o alar yn sgil y profiadau hyn. Bydd sut mae plant a phobl ifanc yn ymateb i’r teimladau hynny o golled a galar yn amrywio’n helaeth – efallai y bydd rhai’n ymddangos yn drist neu’n dawedog, ac eraill yn ymddangos yn bryderus neu’n ddig. 

Mae rhywfaint o adnoddau defnyddiol ar brofedigaeth, colled a galar wedi’u rhestru isod:  

  • Mae ein darn ar golled a newid yn rhoi rhywfaint o gyngor ar ddelio â theimladau anodd  

I blant a phobl ifanc a oedd eisoes yn cael cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol, mae’n debygol bod y sefyllfa wedi tarfu ar y trefniadau hyn neu olygu bod rhaid eu canslo. Gallai colli’r ffynhonnell bwysig hon o gymorth olygu bod plant a phobl ifanc sydd eisoes â chyflyrau yn ei chael yn anodd. Roedd arolwg diweddar gan Young Minds yn dangos bod 80% o bobl ifanc sydd eisoes â phroblem iechyd meddwl yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod wythnosau cyntaf pandemig y coronafeirws. Mae ein darn ar fyw gyda phroblemau iechyd meddwl oedd gennych chi eisoes yn ystod COVID-19 yn rhoi cyngor ar sut mae gofalu amdanoch chi eich hun yn ystod y cyfnod hwn.  

Mae gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ganllawiau ar helpu plant a phobl ifanc sy’n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd.   

Profiadau heriol yn y cartref 

Fe wnaeth llawer o blant a phobl ifanc ddechrau’r cyfyngiadau symud mewn cartrefi lle oedd yr amgylchiadau eisoes yn heriol. Mae’n debygol bod yr amgylchiadau heriol hyn wedi gwaethygu oherwydd bod teuluoedd dan gwarantin gyda’i gilydd yn y cartref. Bydd eraill wedi cael profiadau heriol am y tro cyntaf. Gallai’r rhain gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain: 

  • Trais domestig  

  • Cam-drin neu esgeuluso  

  • Gwrthdaro yn y teulu  

  • Pryderon ariannol e.e. rhieni a gwarcheidwaid yn colli swyddi 

  • Pryderon am berthnasau sy’n weithwyr allweddol ac yn dal i weithio  

  • Cyfrifoldebau gofalu am aelodau o’r teulu  

  • Newyn a diffyg maeth  

  • Ansicrwydd o ran tai e.e. y rheiny sy’n byw mewn gofal preswyl, hostel neu loches.  

Dydy graddfa’r her ddim yn glir eto, ond gyda Refuge, yr elusen trais domestig, yn nodi bod nifer y galwadau i’w llinell gymorth wedi cynyddu 700% a ChildLine wedi cael 900 o alwadau cwnsela am y coronafeirws cyn canol mis Mawrth, mae’n debygol y bydd angen lefel sylweddol uwch o adnoddau gofal bugeiliol ymhell y tu hwnt i’r broses gychwynnol o ddychwelyd i’r ysgol.      

Anghydraddoldeb   

Un her allweddol wrth i ysgolion ailagor fydd nodi sut brofiadau gafodd plant yn ystod y cyfyngiadau symud, a nifer y pryderon sy’n mynd i godi o ran diogelwch wrth i blant ddechrau siarad yn agored â’u hathrawon. Oherwydd natur pandemig y coronafeirws, mae’n bwysig cofio y gallai’r pryderon hyn godi mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn, nid y rhai oedd eisoes yn cael eu hystyried yn agored i niwed yn unig, ac y bydd llawer o blant wedi wynebu amrywiaeth o brofiadau heriol. 

Mae’r amrediad eang o brofiadau mae plant a phobl ifanc wedi’u cael yn ystod y cyfyngiadau symud yn her ynddi ei hun. Bydd yr anghydraddoldeb a brofwyd yn ystod y cyfnod y bu’r ysgol ar gau i’w deimlo am gyfnod hir, oherwydd bydd y bylchau o ran cyrhaeddiad ac iechyd corfforol/emosiynol wedi ehangu. Bydd angen cynllunio i ddarparu cymorth academaidd ychwanegol, yn ogystal â chymorth bugeiliol. 

Ansicrwydd am y dyfodol 

Mae’r newidiadau cyflym ac annisgwyl sydd wedi cael eu gorfodi ar bawb yn sgil y cyfyngiadau symud yn debygol o fod wedi gwneud llawer o blant a phobl ifanc yn ansicr am y dyfodol. I rai, bydd hyn yn golygu eu bod yn ofni cyfnod arall o gyfyngiadau symud; i eraill, efallai y byddan nhw’n teimlo bod dim modd dibynnu ar y pethau oedd yn arfer bod yn ddiogel ac yn rhagweladwy mwyach, fel yr ysgol. 

Efallai y bydd diffyg hyder ymysg pobl ifanc yn yr oedolion yn eu bywydau. Gan eu bod wedi gweld oedolion yn ei chael yn anodd cytuno ar sut i reoli’r argyfwng, efallai y bydd eu hyder mewn oedolion i’w cadw’n ddiogel wedi lleihau. 

Pontio 

Oherwydd bod y cyfyngiadau yn debygol o bara tan ddiwedd un flwyddyn ysgol, bydd diffyg o ran y gwaith fyddai wedi cael ei wneud i baratoi plant i symud ymlaen i’w blwyddyn nesaf yn yr ysgol. Bydd hyn yn heriol, yn enwedig i blant oedd i fod i ddechrau yn yr ysgol, symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd neu adael yr ysgol. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chael gafael ar adnoddau i helpu disgyblion yn ystod cyfnodau pontio ar wefan Mentally Healthy Schools.  

I’r rheiny oedd yn dod i ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol – p’un ai a oedden nhw’n bwriadu symud ymlaen i goleg neu brifysgol, neu chwilio am waith –  mae effaith y feirws a’r cyfyngiadau symud ar brosesau derbyn, canlyniadau arholiadau a chyfleoedd cyflogaeth yn dal yn aneglur, ac mae llawer o ddisgyblion yn debygol o boeni am eu dyfodol. 

Mae ein canllawiau i bobl ifanc, a luniwyd gyda phanel Arweinwyr Ifanc MHF, yn cynnwys cyngor penodol i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol.   

Cyfeillgarwch a bwlio 

Dros gyfnod hir o gadw pellter cymdeithasol, mae’n debygol y bydd cyfeillgarwch rhwng pobl wedi dirywio neu gael ei roi dan straen. Bydd llawer o bobl ifanc wedi bod yn cyfathrebu â’u ffrindiau dros gyfryngau cymdeithasol, tra bydd eraill wedi cael ychydig iawn o gyswllt â’u cyd-ddisgyblion. Oherwydd bod grwpiau o gyfoedion yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i bobl ifanc, gallai hyn olygu eu bod wedi cael eu hamddifadu o ffynhonnell hollbwysig o gymorth i’w helpu i ddelio â straen y cyfnod dan gyfyngiadau symud.

Mae natur yr argyfwng ei hun – sy’n ymwneud â salwch heintus – yn golygu bod posibilrwydd cryf o weld cynnydd yn nifer yr achosion o fwlio. Mae’n debygol y bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo ar waith am gryn amser, a gallai hynny sbarduno bwlio ynghylch y posibilrwydd bod pobl yn “heintus”. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r cynnydd mewn achosion hiliol sydd wedi deillio o’r coronafeirws. Mae’n bosibl y bydd disgyblion o gefndir Asiaidd wedi wynebu hiliaeth oherwydd y syniad bod y feirws wedi tarddu yn Tsieina. 

Mwy diogel gartref  

I rai plant a phobl ifanc dydy’r ysgol, yn anffodus, ddim yn teimlo’n lle diogel ac mae’n debyg bod eu bod wedi croesawu’r seibiant oddi yno yn sgil y cyfyngiadau symud. I’r disgyblion hynny, nid yr hyn sydd wedi digwydd tra oedd yr ysgol ar gau fydd yr her, ond y syniad o fynd yn ôl yno. Gall hyn fod yn berthnasol i ddisgyblion ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu yn enwedig, oherwydd efallai ei bod yn haws diwallu eu hangenion gartref. 

Helpu disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol  

Fel athro, mae’n siŵr eich bod chi eisoes yn ymwybodol o’r profiadau mae’ch disgyblion yn eu cael, ac wrth i ysgolion ailagor, bydd yr heriau penodol mae cymuned eich ysgol yn eu hwynebu yn dod yn gliriach. 

I helpu eich disgyblion drwy’r cyfnod pontio hwn, bydd angen defnyddio llawer o’r sgiliau rydych chi’n eu defnyddio o ddydd i ddydd i roi cyngor ac arweiniad academaidd ac emosiynol iddynt. Nod y ddwy adran ganlynol yw datblygu eich gwybodaeth a’ch profiad, gan gynnig mwy o arweiniad ar bethau i’w cadw mewn cof wrth gynllunio’r cyfnod pontio a siarad â disgyblion, yn ogystal â rhagor o strategaethau ac adnoddau ymarferol ar gyfer ailsefydlu perthnasoedd a chefnogi disgyblion. 

Pethau i’w cadw mewn cof  

  • Ni fydd yr un dull yn addas i bawb – bydd gwahanol ddisgyblion yn yr un dosbarth wedi cael profiadau gwahanol iawn yn ystod y cyfyngiadau symud. Bydd ganddynt hefyd wahanol lefelau o sgiliau ymdopi a gwytnwch i ddelio â’r profiadau hynny. Bydd yn bwysig cadw meddwl agored am y profiadau y gallai disgyblion fod yn eu cael a sut maen nhw’n delio â’r rheiny.   
  • Rydych chi’n rhan o dîm – gall rhai o’r heriau rydych chi’n eu hwynebu fel athro eich llethu weithiau, ond mae athrawon eraill yn eich ysgol, yn eich cymuned ac ym mhob cwr o’r byd yn wynebu’r un problemau. Gan sefydlu cyfyngiadau priodol o ran cyfrinachedd disgyblion, ceisiwch gymorth ac arweiniad gan athrawon ac arweinwyr ysgolion eraill. Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei ddysgu â nhw.  

  • Mae eich tîm yn ehangach na chymuned eich ysgol – efallai y bydd asiantaethau, sectorau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol eraill yn gallu cynnig cym
  • Gwahanol ymatebion emosiynol – gan ystyried bod sawl math o golled y gallai disgyblion fod wedi’i brofi yn ystod eu cyfnod i ffwrdd o’r ysgol, efallai y byddwch yn gweld gwahanol fathau o ymatebion emosiynol. Bydd plant a phobl ifanc yn ymateb i brofiadau heriol mewn gwahanol ffyrdd. Gall yr un plentyn ddangos gwahanol ymatebion o un dydd i’r llall. 

Mae rhagor o wybodaeth am ymatebion plant a phobl ifanc i alar ar gael yma.

  • Peidiwch ag anwybyddu ymddygiad sy’n peri pryder – pan fydd rhywbeth o bwys yn digwydd, mae’n gallu bod yn demtasiwn gweld popeth yn y cyd-destun hwnnw. Fodd bynnag er bod dychwelyd i’r ysgol yn debygol o olygu y bydd ymddygiad rhai plant yn heriol, ni ddylem anwybyddu arwyddion bod rhywbeth difrifol yn digwydd. Mae’r seicotherapydd Jane Caro, ein Pennaeth Rhaglenni, yn nodi rhai arwyddion sy’n awgrymu y dylech atgyfeirio disgybl i gael cymorth iechyd meddwl ychwanegol: 
    • Newid sylweddol mewn yn hwyliau’r disgybl sy’n para mwy nag ychydig ddyddiau. Gall yr arwyddion hyn gynnwys diffyg egni, mynd i’w gragen a pheidio â gwneud cyswllt cymdeithasol â ffrindiau, cael trafferth canolbwyntio mewn gwersi, bod yn ddagreuol. 

    • Newid sylweddol ym mhwysau’r corff – cynnydd neu leihad – oherwydd mae trafferthion iechyd meddwl yn aml yn effeithio ar chwant bwyd.   

    • Blinder sy’n para mwy nag ychydig ddyddiau – gallai hyn fod yn arwydd o newid mewn patrymau cysgu, sy’n gallu bod yn gysylltiedig â phryderon iechyd meddwl.  

    • Pyliau o ddicter sy’n groes i’w gymeriad.  

    • Ymddygiad cyfrinachol, yn ystod amseroedd bwyta neu mewn gwersi addysg gorfforol. Efallai y byddwch yn sylwi bod y person ifanc yn ceisio cuddio ei gorff mewn ffordd sy’n anarferol iddo/iddi.  

    • Unrhyw arwyddion o hunan-niweidio e.e. arwyddion gweledol o gleisio neu dorri’r croen.  

  • Aros cyn dechrau dysgu – efallai na fydd disgyblion yn teimlo eu bod yn gallu mynd ati i ddysgu’n syth ar ôl dychwelyd i’r ysgol. Mae cael trafferth canolbwyntio yn gyffredin ymysg plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth neu drawma. Gallai mynd yn ôl i gael gwersi fel o’r blaen yn syth arwain at ymddygiad trafferthus wrth i ddisgyblion ddod i arfer â gweld ei gilydd eto. Gallai fod yn syniad da rhoi amser iddynt weithio drwy’r sgyrsiau hyn a pharatoi i ddysgu, os yw’r amserlen yn caniatáu. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd rhai disgyblion, yn enwedig y rheiny sy’n mynd i flynyddoedd lle byddant yn sefyll arholiadau, yn awyddus i ddechrau dysgu eto a gwneud yn siŵr eu bod yn dal i fyny â’r gwaith maen nhw wedi’i golli. 

Er ein bod ni’n rhagweld y gallai amser gwersi fod yn heriol i ddisgyblion oherwydd bod gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar ddysgu eto, mae hefyd yn bwysig cofio y gallai amseroedd distrwythur yn yr ysgol (amser egwyl ac amser cinio, cyn ac ar ôl yr ysgol) fod yn anodd i rai plant. 

  • Effeithio ar ymlyniad – Mae’n bosibl y bydd y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ymlyniad plant a phobl ifanc – er enghraifft, bod ar wahân i rieni a neiniau a theidiau. Mae ymlyniad yn gysyniad rydyn ni fel arfer yn ei gysylltu â babanod, ond mae’n berthnasol drwy gydol ein bywydau. Mae gan hyd yn oed y disgyblion hŷn berthynas o ymlyniad gydag oedolion allweddol yn eu bywydau, yn ogystal â’u ffrindiau a’u cyd-ddisgyblion. Os rhoddir straen ar y perthnasoedd hynny, os bydd rhywbeth yn tarfu arnynt, neu os ydynt yn cael eu hatal yn llwyr, mae’n debygol y bydd plant a phobl ifanc yn profi lefel o drallod emosiynol. 

Efallai nad ydych chi’n meddwl am eich perthnasoedd chi â’ch disgyblion yn y ffyrdd hynny, ond gallai fod yn ddefnyddiol cymryd camau i adfer yr ymlyniad mae’r sefyllfa wedi effeithio arno. Gallai hyn gynnwys treulio mwy o amser gyda dosbarthiadau rydych chi’n gyfrifol amdanynt (e.e. grwpiau tiwtora) neu neilltuo amser i ddisgyblion siarad gyda staff a’i gilydd ac ailsefydlu perthnasoedd.  

Os oes gennych chi amser cyn i’r ysgol ailagor, gallech chi ddarllen mwy am ymlyniad. Gallai gwefan Mentally Healthy Schools fod yn fan cychwyn da. 

  • Trawma – gall y gair hwn swnio’n ddramatig ond mae sefyllfa’r coronafeirws wedi bod yn brofiad trawmatig y mae cymunedau ac unigolion wedi’i rannu. Mae angen prosesu hyn a deall yn union beth sydd wedi digwydd er mwyn galaru dros golled y gymuned a gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen. Bydd angen cymorth ar blant a phobl ifanc sy’n dychwelyd i’r ysgol ar ôl wynebu profiadau trawmatig fel profedigaeth neu gamdriniaeth, gan athrawon ac ysgolion sy’n gwrando, yn deall ac yn ymateb mewn ffyrdd priodol.   

Mae gofal ar sail dealltwriaeth o drawma yn ddull sy’n ceisio creu amgylchedd mewn ysgolion a sefydliadau, sy’n lleihau niwed ac yn hybu gwellhad ymysg unigolion sydd wedi wynebu trawma. Mae rhywfaint o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol am y dull hwn ar gael ar wefan Trauma Informed Schools.    

Hefyd, gall adnoddau i gefnogi cymunedau ar ôl trychinebau naturiol neu gyfnodau treisgar gynnig syniadau defnyddiol ar gyfer ymateb, fel pecyn adnoddau trawma yn y gymuned Emerging Minds.  


Strategaethau ac offerynnau ymarferol   

  • Cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd – er efallai nad yw’n ddefnyddiol sôn am sefyllfa’r coronafeirws byth a beunydd, mae’n bwysig cydnabod graddfa’r hyn mae pob un ohonom wedi bod drwyddo yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’n bwysig cael cydbwysedd rhwng parchu anferthedd y sefyllfa, yr aberth mae pobl wedi gorfod ei gwneud, a’r golled maen nhw wedi’i hwynebu, ond heb fawrygu’r sefyllfa neu roi gormod o bwyslais arni. Efallai y bydd angen i chi fynd gam ymhellach a rhoi esboniad clir a sensitif o’r hyn sydd wedi digwydd a pham – mae’n bosibl na fydd y rheiny sy’n gofalu am rai disgyblion wedi rhoi digon o wybodaeth iddyn nhw am y sefyllfa. Gallai fod yn ddefnyddiol i’r disgyblion gael eglurder am yr hyn sydd wedi digwydd a beth yw’r risgiau parhaus.  

    Gweithgareddau posib– mae llawer o adnoddau wedi cael eu creu ynglŷn â siarad â phlant am y coronafeirws. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio un o’r rhain i ddechrau sgwrs ymysg y disgyblion am eu profiadau.
    • Y Blynyddoedd Cynnar: Mae gan Sesame Street fideos ac adnoddau defnyddiol i blant iau am argyfyngau iechyd a delio â phryderon.  
    • Ysgolion cynradd: Gallech chi ddarllen llyfr Axel Scheffler am y coronafeirws gyda’ch gilydd. Gallwch ei lwytho i lawr am ddim yma.
    • Ysgolion uwchradd: Mae gan YoungScot amrywiaeth eang o erthyglau am y coronafeirws, gan gynnwys adnoddau sy’n esbonio’r sefyllfa’n glir ac yn eich helpu i ddeall rhai termau “jargon” pwysig.
  • Rhoi cyfle iddyn nhw siarad – efallai mai’r diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol fydd y cyswllt cyntaf mae’r disgyblion wedi’i gael â’i gilydd ers sawl wythnos. Gallai fod yn heriol mynd yn ôl i’r hen drefn ar unwaith, oherwydd bydd y disgyblion wedi bod am gyfnod hir heb ddilyn y drefn arferol. Efallai y bydd ganddyn nhw lawer o bethau ar eu meddwl neu gwestiynau ynglŷn â’u hamser i ffwrdd o’r ysgol hefyd.     

     

    Wrth gwrs, bydd angen gwneud yn siŵr bod disgyblion yn dal i fyny â’r gwaith maen nhw wedi’i golli hefyd. Gallai cyflwyno gwersi fesul dipyn, gan gael cydbwysedd rhwng gwersi academaidd a rhai creadigol a galwedigaethol, fod yn un dull. 

    Gweithgareddau posib​ – if you have the option to go off-timetable for some or all of the initial return to school period, you might want to do this. This will allow pupils to refamiliarise themselves with the rhythm of the school day. 

    • Ysgolion cynradd – gallai “amser cylch” estynedig fel dosbarth cyfan fod yn ffordd ddefnyddiol o rannu profiadau ac ailsefydlu sgiliau fel gwrando ar eraill, gwneud pethau yn eich tro, a chanolbwyntio.    

    • Ysgolion uwchradd – gallech ymestyn amseroedd cofrestru neu gyfnodau gyda thiwtoriaid blwyddyn, os oes gennych chi rai, er mwyn rhoi cyfle i’r disgyblion ailgysylltu â’i gilydd. Gallech hefyd addasu gweithgareddau rydych chi fel arfer yn eu gwneud pan fydd disgyblion yn pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, fel gweithgareddau “dod i adnabod eich gilydd”, a’u defnyddio â grwpiau blynyddoedd eraill.   

    • Pob oedran – os ydych chi’n gweithio gyda grwpiau bach neu’n gweithio un-i-un gyda disgyblion sydd efallai angen mwy o gymorth, gallai ein pecyn gweithgareddau Time for Us fod yn fan cychwyn da. Mae’n cynnwys gweithgareddau sydd wedi’u llunio i wneud i blant a phobl ifanc feddwl am yr hyn sy’n peri straen iddyn nhw, eu strategaethau ar gyfer ymdopi â hynny, a’u system cefnogaeth.   

  • Cynnig cyfleoedd i siarad yn unigol – efallai fod gwneud pethau fel grŵp yn helpu i adfer cysylltiadau oedd wedi’u colli, ond mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael cyfle i siarad â chi ar eu pen eu hunain. Gallai hyd yn oed y rheiny sydd wedi cael profiad cymharol hawdd yn ystod y cyfyngiadau symud werthfawrogi’r cyfle i ailgysylltu.     

Yn bwysicach na hynny, mae’n bosibl bod pethau nad ydych chi’n gwybod amdanyn nhw wedi digwydd gartref. Cofiwch, gallai plant a phobl ifanc ddechrau siarad am bwnc, wedyn stopio, a dechrau eto wedyn. Gwnewch yn siŵr bod cyfleoedd cyson iddyn nhw ddod yn ôl i barhau â’r sgwrs.  

 Gweithgareddau posib

  • Os oes gennych chi ddosbarth rydych chi’n gweithio gydag ef yn rheolaidd, e.e. ysgolion cynradd neu grwpiau tiwtora mewn ysgolion uwchradd, efallai y byddwch yn dymuno trefnu sgyrsiau un-i-un gyda phob disgybl. 
  • Fel arall, gallech neilltuo “awr swyddfa” lle gall disgyblion ddod i’ch gweld chi os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Hyd yn oed os nad ydych chi’n diwtor blwyddyn neu’n bennaeth blwyddyn, efallai mai chi yw’r unigolyn mae rhai disgyblion yn teimlo fwyaf cyfforddus yn siarad ag ef am eu profiadau.
  • Daliwch ati i gynnig y cyfleoedd hyn dros yr wythnosau a’r misoedd ar ôl i’r ysgol ailddechrau, nid yn ystod y diwrnnodau cyntaf yn unig – gallai gymryd amser i ddisgyblion deimlo’n ddigon hyderus i siarad â chi am yr hyn sy’n eu poeni.
  • Gofynnwch gwestiynau ‘agored’ sy’n rhoi cyfle i’r plentyn neu’r person ifanc ymateb mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn iddo, yn hytrach na chwestiynau ie/na caeëdig sy’n awgrymu ateb ‘cywir’ amlwg fel arfer, ac yn gallu atal y plentyn neu’r person ifanc rhag ymhelaethu ar ei ateb.
  • Os yw’n bosibl, ceisiwch ysgogi sgyrsiau a allai fod yn anodd pan mae gennych chi ddigon o amser ac egni i ymateb yn briodol ac yn sensitif iddynt. Bydd plant a phobl ifanc yn sylwi os ydyn ni ar frys neu fod gennym ni ddim amser i wrando ar bopeth maen nhw eisiau ei ddweud wrthym ni. 
  • Bod yn bositif – er ei bod yn eithriadol o bwysig cydnabod y golled a’r heriau rydyn ni i gyd wedi’u hwynebu yn sgil y feirws, bydd cael agwedd gadarnhaol tuag at y dyfodol yn debygol o fod yn fuddiol. Bydd canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd cryf ac edrych i’r dyfodol yn gyda hyder yn gallu helpu i leddfu rhywfaint o bryderon y disgyblion.  

    Gweithgareddau posib

    • Gallech chi annog sgwrs ymysg eich disgyblion am y pethau cadarnhaol sydd wedi deillio o’r sefyllfa. Gan gydnabod bod llawer o bethau drwg wedi digwydd, ewch ati i’w hannog i feddwl am y pethau da sydd wedi digwydd. Gofynnwch iddyn nhw ystyried sut gallem ni barhau i wneud rhai o’r pethau hynny wrth i fywyd fynd yn ôl i “normal” yn raddol. Er enghraifft, roedd pobl yn defnydddio eu ceir yn llawer llai aml ac fe wnaeth lefelau llygredd leihau - gallem ymrwymo i gerdded a beicio’n amlach. Mae’n bwysig pwysleisio nad yw cydnabod y pethau positif yn golygu nad yw’r pethau negyddol yn ddilys nac yn bwysig.  
  • Meithrin cysylltiadau – un peth y gall disgyblion fod wedi’i golli yn ystod y cyfnod estynedig heb fod yn yr ysgol yw’r synnwyr o berthyn. Er ein bod ni i gyd wedi bod drwy’r cyfnod dan gyfyngiadau symud ar ein pen ein hunain yn ein cartrefi, mae’n sefyllfa sydd wedi effeithio ar bawb mewn cymdeithas. Byddai gweithgaredd y gall pawb yn y dosbarth gymryd rhan ynddo  – neu bawb yn yr ysgol hyd yn oed – yn gallu helpu i adfer synnwyr disgyblion o gysylltiad â’i gilydd yn yr ysgol. 

Gweithgareddau posib

  • Bydd gweithgareddau sy’n cynnwys pob disgybl, ac yn eu galluogi nhw i ganolbwyntio ar eu cryfderau, yn addas iawn. Ceisiwch greu helfa i’w chwblhau mewn timau, sy’n cynnwys gwahanol weithgareddau a phosau – gallai’r rhain gynnwys ysgrifennu, darlunio, heriau corfforol, datrys problemau neu feddwl yn rhesymegol. 
  • Gallech chi hefyd roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau celf isod, naill ai fel dosbarth neu ysgol gyfa
  •  
  • Os oes disgyblion newydd yn ymuno â’ch dosbarth – er enghraifft, disgyblion yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd – efallai y bydd angen i chi feddwl am ffyrdd gwahanol o feithrin cysylltiad. Gallai fod yn ddefnyddiol anfon cerdyn post at bob disgybl gan eu darpar diwtor blwyddyn, neu roi cyfle iddynt gynnal “cyfweliadau” fideo gyda’u hathrawon newydd.
  • Trowch at y celfyddydau – gall y celfyddydau creadigol ein helpu ni i fynegi teimladau rydyn ni’n ei chael yn anodd eu cyfleu mewn geiriau, neu i deimlo’n llai unig wrth ddelio â theimladau anodd. Gallai cyflwyno darnau o gerddoriaeth, celf weledol neu ddramâu sy’n cyfleu rhai o’r teimladau y gallai’r plant fod yn eu teimlo fod yn ffordd dda o ddechrau sgyrsiau – does dim rhaid iddyn nhw fod am y coronafeirws yn benodol. Gall creu celf ddod â phobl at ei gilydd hefyd.  

Gweithgareddau posib:   

  • Gall creu darn o gelf fel dosbarth cyfan (neu ysgol gyfan hyd yn oed) helpu i feithrin cysylltiadau a chreu synnwyr o berthyn. Gallai rhywbeth syml fel llun sydd wedi’i greu o olion dwylo unigolion fod yn rhywbeth hawdd y gall disgyblion o bob gallu gymryd rhan ynddo. Byddai modd ei ddangos yn yr ystafell ddosbarth i atgoffa’r disgyblion o hunaniaeth gyfun y dosbarth. 
  • Gallai fod yn syniad da defnyddio celf a cherddoriaeth yn yr ystafell ddosbarth wrth siarad am deimladau. Mae rhywfaint o ganeuon y gallwch eu defnyddio gyda phlant iau wrth siarad am eu pryderon ar gael ar wefan Mindful Music: https://www.mindfulmusic.london/resources
  • Gall canu fel grŵp helpu pobl i deimlo cysylltiad rhyngddynt – rhowch gynnig ar ganu cân rydych chi’n ei gwybod eisoes, dilyn fideo “cyd-ganu” ar YouTube, neu hyd yn oed annog disgyblion i fod yn greadigol ac ysgrifennu geiriau newydd i alaw boblogaidd maen nhw’n gyfarwydd â hi, yn seiliedig ar eu profiadau neu eu teimladau eu hunain.
  • Byddwch yn ofalgar – gall disgyblion fod yn delio â mwy o bryderon, meddyliau a straen nag arfer pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn sgil defnyddiol i’w helpu nhw i ddelio â’r teimladau hynny. Mae modd ymarfer rhai sgiliau fel dosbarth, er enghraifft, ymarferion anadlu. Gallwch hefyd esbonio iddyn nhw pa mor bwysig yw dysgu canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd nawr – mae meddwl gormod am y gorffennol neu hel meddyliau am y dyfodol yn gallu gwneud pryderon yn waeth.   

Gweithgareddau posib 

  • Ewch ati i arwain y dosbarth drwy gynnal ymarfer anadlu byr a’u hatgoffa nhw bod modd iddyn nhw ddefnyddio’r dechneg hon (heb gau eu llygaid) i’w helpu i ganolbwyntio os ydyn nhw’n teimlo’n bryderus. 
  • Gofynnwch i’r dosbarth feddwl am restr o bethau maen nhw’n gallu eu gwneud pan maen nhw’n teimlo’n bryderus, ac arddangos y rhestr yn y dosbarth. Gallai’r rhain gynnwys “gwneud nodyn o fy mhryder ar bapur”, “meddwl am rywun sy’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel” neu “sylwi ar fy synhwyrau – beth ydw i’n gallu ei weld, ei glywed, ei flasu, ei arogli neu ei deimlo?”  
  • Defnyddiwch system “seibiant” yn fwy hyblyg, lle gall disgyblion gael amser tawel i ddarllen neu orffwys pan mae angen gwneud hynny arnynt. Mewn ysgolion uwchradd, os oes gennych chi fan tawel i ddisgyblion ei ddefnyddio, efallai y byddai’n syniad da sicrhau bod hwn ar gael i bob disgybl, ac ar gael yn amlach, yn ystod dechrau’r cyfnod dychwelyd i’r ysgol. 
  • Gallech gael “pot pryderon” yn yr ystafell ddosbarth, neu flwch postio ar ddrws eich swyddfa, i’r disgyblion eu defnyddio i roi gwybod i chi am yr hyn sy’n eu poeni.
  • Gofalu amdanoch chi eich hun – mae gofyn i athrawon, fel llawer o weithwyr rheng flaen eraill, fod yn gyfrifol am les pobl eraill. Yn y cyfnod anodd hwn, gall hyn roi straen enfawr ar ein hiechyd meddwl ni. Er mwyn gallu rhoi’r gefnogaeth orau i’ch disgyblion, mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich lles eich hun hefyd. 

Mae’r holl gyngor yn ein Canllaw Sut i Ofalu am Eich Iechyd Meddwl yn dal yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn. Mae MindEd wedi casglu cyngor ac awgrymiadau at ei gilydd ar gyfer staff rheng flaen er mwyn cefnogi eu llesiant a’u hiechyd meddwl:  https://covid.minded.org.uk/. Gallai canllaw Coping as a Key Worker Mind fod yn ddefnyddiol hefyd. 


Awgrymiadau i Rieni a Gofalwyr – paratoi eich plentyn i ddychwelyd i’r ysgol

  • Dechrau siarad - efallai fod gan eich plentyn bryderon am fynd yn ôl i’r ysgol. Gallwch chi archwilio’r rhain a helpu’ch plentyn i feddwl am ffyrdd o ddelio â nhw gan ddefnyddio ein pecyn Time for Us neu’r adnoddau ar wefan Family Links.  

  • Trefn cysgu – helpwch eich plentyn i fynd yn ôl i’w drefn cysgu arferol cyn i’r ysgol ailddechrau. Gallai ein canllaw “Sut i…” ar wella cwsg fod yn fan cychwyn da. 

  • Siarad am yr ysgol – dechreuwch siarad am y drefn ddyddiol roedden nhw’n arfer bod yn gyfarwydd iawn â hi. Does dim rhaid iddi fod yn sgwrs am bryderon i ddechrau, ond gallai’r rhain godi wrth i chi siarad. 

  • Dangoswch strategaethau ymdopi rydych chi’n eu defnyddio pan fyddwch chi dan straen, fel ailgysylltu â ffrindiau cyn mynd yn ôl, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd neu ddefnyddio technegau anadlu. Os yw’n berthnasol, gallech chi rannu eich pryderon a’ch teimladau eich hun am fynd yn ôl i’r gwaith a nodi sut rydych chi’n delio â’r teimladau hyn.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael gymaint â phosibl – efallai y bydd plant eisiau dod atoch chi i fwrw eu bol ar adegau annisgwyl. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n cael cyfleoedd i siarad mewn gwahanol ffyrdd, fel mynd am dro gyda’ch gilydd neu bobi gyda’ch gilydd – efallai fod llai o bwysau arnynt mewn sefyllfaoedd fel hyn, yn hytrach nag eistedd wyneb yn wyneb.

  • Edrychwch ar y pethau positif – wrth i ysgolion ailagor, bydd pethau eraill yn ailagor hefyd. Gallai fod yn ddefnyddiol siarad am bethau mae’r plentyn yn edrych ymlaen atynt, fel ei hoff siop yn ailagor, gweld ffrindiau yn y parc neu gael hufen iâ o’i hoff gaffi.   

Awgrymiadau i Arweinwyr Ysgolion – cefnogi cymuned eich ysgol  

  • Bod yn fentrus – os gallwch chi, meddyliwch yn radical am yr agweddau positif ar y cyfyngiadau symud yr hoffech chi barhau â nhw. Achubwch ar y cyfle hwn i sefydlu gwahanol ffyrdd o weithio yn amgylchedd eich ysgol. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, fe wnaethom ni annog arweinwyr i feddwl am sut bydden nhw’n gallu gwneud caredigrwydd, parch a lles yn rhan greiddiol o’u sefydliadau, ac rydyn ni’n annog arweinwyr ysgolion i wneud yr un fath. Beth fyddai hyn yn ei olygu yn eich ysgol chi?Pastoral care – make time over several weeks for pupils to connect with adults and ensure staff are effectively supported with clear processes in place for reporting safeguarding and pastoral issues, or for signposting to other external sources of support. 

  • Gofal bugeiliol – neilltuwch amser i ddisgyblion ddatblygu cysylltiad ag oedolion dros sawl wythnos, yn ogystal â sicrhau bod staff yn cael cymorth effeithiol a bod prosesau clir ar waith ar gyfer cofnodi materion bugeiliol a materion sy’n ymwneud â diogelwch, neu ar gyfer atgyfeirio at ffynonellau cymorth allanol. 

  • Hyfforddiant – gwnewch nodyn o feysydd lle mae’n bosibl bod bylchau mewn gwybodaeth a hyder ymysg staff, o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Gallech chi ddarparu adnoddau dysgu, fel y rheiny sydd ar FutureLearn neu lwyfannau ar-lein eraill, a rhoi amser i staff eu cwblhau, nes bydd modd rhoi hyfforddiant ffurfiol ar waith.

  • Tynnwch sylw at y cymorth sydd ar gael yn yr ysgol ac yn eich cymuned leol, a rhannu hyn mor helaeth â phosibl ymysg disgyblion â staff. Nodwch sefydliadau a allai ddarparu gwasanaethau cwnsela neu gyngor i weithwyr rheng flaen, yn ogystal â chymorth i ddisgyblion gyda’u lles a’u hiechyd meddwl.

  • Cydweithio – efallai y gallech chi ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael gan asiantaethau statudol neu’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol i roi rhai o’r awgrymiadau hyn ar waith. Mae hyd yn oed yn bosibl bod gan rieni yn eich cymuned eu hadnoddau neu eu hyfforddiant eu hunain a’u bod yn fodlon rhannu’r rhain â’r ysgol. Gallai treulio amser yn dod o hyd i’r cymorth sydd ar gael ac yn meithrin perthnasoedd â’r grwpiau hyn fod yn fan cychwyn da.     

Diolch i’n cydweithwyr am adolygu’r canllawiau hyn:   

  • Andy Langford - Cyfarwyddwr Clinigol, Cruse Bereavement Care
  • Grŵp Cydlynwyr AAA Ysgol Gynradd Medway  
  • Grŵp Arweinwyr Ysgol Gynradd Dover 
  • Terry Bennett a Darren Rubin, Ffederasiwn St John a St Paul, Tower Hamlets   
  • Kevin Smart a Rebecca Smith, Ymgynghorwyr Arwain Awdurdod Lleol Medway  
  • Dr Robin Precey, Prifysgol Christ Church Caergaint  
  • Athrawon o ysgolion ein Prosiect Addysg Cymheiriaid