Natur: Sut mae cysylltu â natur o fudd i'n hiechyd meddwl

Crynodeb gweithredol

Mae ein perthynas â natur – faint rydym yn sylwi, yn meddwl am ein hamgylchedd naturiol ac yn ei werthfawrogi – yn ffactor hollbwysig wrth gefnogi iechyd meddwl da ac atal trallod.

Mae natur yn angen pwysig i lawer ac yn hanfodol i'n cadw'n emosiynol, yn seicolegol ac yn gorfforol iach.

O ran manteision iechyd meddwl, mae gan natur ddiffiniad eang iawn. Gall olygu mannau gwyrdd fel parciau, coetir neu goedwigoedd yn ogystal â mannau glas fel afonydd, tiroedd gwlyb, traethau neu gamlesi. Mae hefyd yn cynnwys coed ar stryd drefol, gerddi preifat, ymylon a hyd yn oed planhigion dan do neu flychau ffenestri. Er syndod, dangoswyd bod hyd yn oed gwylio rhaglenni dogfen natur yn dda i'n hiechyd meddwl. Mae hyn yn newyddion gwych gan ei fod yn golygu y gellir sicrhau bod manteision iechyd meddwl natur ar gael i bron bob un ohonom, waeth ble rydym yn byw.

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r dystiolaeth o sut a pham mae ein perthynas â natur mor bwysig a buddiol i'n hiechyd meddwl. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y mynediad anghyfartal at fanteision natur i grwpiau penodol a'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwnnw.

Mae natur wedi chwarae rhan hollbwysig yn ein hiechyd meddwl yn ystod y pandemig

Drwy ein hymchwil ein hunain yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, gwyddom mai treulio amser yn yr awyr agored fu un o'r ffactorau allweddol wnaeth alluogi pobl i ymdopi â straen pandemig Covid-19. Drwy gydol y pandemig, dywedodd bron i hanner (45%) o bobl yn y DU wrthym fod ymweld â mannau gwyrdd, fel parciau, wedi eu helpu i ymdopi.

Mae ein canfyddiadau yn cael eu hategu gan ymchwil arall sydd wedi canfod bod pobl sy'n ymweld ac yn sylwi ar natur yn arbennig yn bwysig o ran cefnogi eu lles. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, gan ei fod yn ein helpu i ddeall bod cysylltiad â natur yn helpu i ddatgloi'r manteision iechyd meddwl – ac mae hefyd yn rhoi cliwiau hanfodol i ni ar sut i sicrhau'r manteision hyn i'n lles.

Mae ansawdd yn cyfrif. Mae cysylltu â natur yn hollbwysig

Mae treulio amser mewn natur yn dda i ni am lawer o resymau. Mae “awyr iach ac ymarfer corff” wedi cael ei argymell ers tro fel ffordd i lawer deimlo'n well, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Nawr mae tystiolaeth yn dangos i ni fod ansawdd ein perthynas â natur yn rhan o'r rheswm dros ei heffaith gadarnhaol ar ein lles. Mae ymchwilwyr yn defnyddio'r term “cysylltioldeb” i ddisgrifio'r berthynas ddelfrydol.

Mae cysylltioldeb yn cyfeirio at y ffordd rydym yn ymwneud â natur ac yn profi natur. Mae cysylltiad cryf â natur yn golygu teimlo perthynas agos neu ymlyniad emosiynol i'n hamgylchedd naturiol. 

Mae ffyrdd y gallwn ddatblygu ein cysylltioldeb â natur. Gall gweithgareddau sy'n cynnwys y synhwyrau helpu i ddatblygu ein cysylltiad â'r byd naturiol, yn ogystal â gweithgareddau lle rydym yn teimlo emosiynau fel tosturi, yn gweld harddwch neu'n dod o hyd i ystyr o ran natur.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn sylwi ar harddwch natur drwy wrando'n astud ar yr adar neu gyffwrdd â rhisgl coeden. Mae arogli blodau neu deimlo'r pridd rhwng ein bysedd wrth blannu bylbiau yn yr ardd hefyd yn ffyrdd synhwyrol iawn o gysylltu â natur. Nid oes rhaid i ni fod yn natur bob amser i ddatblygu ein perthynas â'r byd naturiol: mae ysgrifennu cerdd am ein hoff fan natur neu fyfyrio ar deithiau cerdded rydyn ni’n eu hoffi yn ein helpu i sylwi yn gydwybodol, ystyried ac oedi i werthfawrogi'r pethau da mewn natur.

Mae pobl sydd â chysylltiad natur da yn tueddu i fod yn hapusach

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n fwy cysylltiedig â natur fel arfer yn hapusach mewn bywyd ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo bod eu bywydau'n werth chweil. Gall natur greu llu o emosiynau cadarnhaol, fel tawelwch, llawenydd, creadigrwydd a gall hwyluso canolbwyntio.

Mae cysylltioldeb natur hefyd yn gysylltiedig â lefelau is o iechyd meddwl gwael; yn arbennig lefelau iselder a phryder is.

Efallai nad yw'n syndod bod pobl sydd â chysylltioldeb natur cryf hefyd yn fwy tebygol o fod ag ymddygiadau o blaid yr amgylchedd megis ailgylchu eitemau neu brynu bwyd tymhorol. Mae hyn yn debygol o arwain at fanteision pellach, os gall y gweithgareddau amgylcheddol gadarnhaol hyn arwain at welliannau o ran natur y gallwn fynd ymlaen i'w mwynhau wedyn. Ar adeg o fygythiadau amgylcheddol dinistriol, bydd datblygu perthynas gryfach sy'n gefnogol i'r ddwy ochr rhwng pobl a'r amgylchedd yn hollbwysig.

Gwyrdd a llonydd. Rydym yn elwa o fannau natur “o ansawdd uchel”

Mae mannau naturiol “o ansawdd uchel” yn well i ni a'n lles.

Gall ansawdd olygu bioamrywiaeth uwch (amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt). P’un a ydym mewn mannau gwledig neu drefol, mae rhai o nodweddion natur yn arbennig o bwysig. Mae'r rhain yn cynnwys faint o “wyrddni” sydd mewn coed, planhigion, a glaswellt ac ati, yr amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt, a thirweddau “llonydd” sy'n teimlo'n dawel ac yn ddigyffro.

Mae glendid, fel dim sbwriel, mewn mannau natur hefyd yn ffactor o ran faint mae ein hiechyd meddwl yn elwa o dreulio amser y tu allan. Mae ardaloedd natur glanach yn gysylltiedig â chyfraddau iselder is.

Mae natur ym mhobman, ond nid yw natur o ansawdd uchel ar gael yn gyfartal

Er y gellir dod o hyd i natur yn unrhyw le, nid yw mannau natur o ansawdd uchel y gwyddom eu bod fwyaf tebygol o helpu i gefnogi iechyd meddwl da ar gael yn gyfartal i bawb yn y DU. Mae hwn yn ddarlun mwy cymhleth na pha mor bell yr ydym yn byw o ofod natur o ansawdd uchel.

Mae agosrwydd yn sicr yn ffactor, gyda chymunedau difreintiedig yn lleiaf tebygol o fyw'n agos at ofod natur o ansawdd uchel. Efallai nad yw'n syndod bod ein harolwg barn wedi canfod bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn llai tebygol na thrigolion gwledig o gysylltu â natur gymaint ag yr oeddent yn dymuno, a phobl heb erddi yn llai tebygol na'r rhai â gerddi. Gall oedolion iau yn arbennig wynebu llawer o rwystrau i gysylltu â natur.

Mae pobl sy'n byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd yn aml yn wynebu rhwystrau penodol i fynediad, pan nad yw mannau naturiol wedi ystyried cynhwysiant neu os oes diffyg llwybrau hygyrch.

I rai grwpiau, gan gynnwys llawer o ferched, pobl iau, pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig, gall mannau natur deimlo'n anhygyrch neu'n llai pleserus am nad ydynt yn ddiogel – o risg o niwed corfforol, aflonyddu rhywiol, troseddau casineb neu wahaniaethu.

I lawer o'r grwpiau hyn, mae'r anghydraddoldeb hwn yn cael effaith ddwbl. Mae sawl grŵp sy’n cael eu disgrifio uchod nid yn unig yn cael llai o'r budd lles o gysylltu â natur o ganlyniad i'r rhwystrau mynediad hyn, ond nhw yw'r union grwpiau o fewn ein poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl. 

Mae enghreifftiau da o fentrau mewn mannau natur i leihau anghydraddoldeb mynediad, a chaniatáu i bob grŵp elwa o gysylltu â natur i gefnogi eu lles. Gall parciau trefol o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg, alluogi mwy o bobl i fwynhau a chysylltu â natur. Mae atebion eraill yn cynnwys plannu blodau a choed ar hyd ein strydoedd neu hyd yn oed ail-greu cynefinoedd naturiol lle mae datblygiadau dynol newydd fel ffordd wedi'u hadeiladu. Mae’r rhain yn cael eu galw yn “goridorau gwyrdd”.

Casgliadau

Neges allweddol y dystiolaeth ymchwil hon yw'r angen i symud ein sylw o ganolbwyntio ar gael pobl i ymweld â mannau naturiol ac weithiau anghysbell, i ganolbwyntio ar sut y gall pobl diwnio i mewn a chysylltu â natur “bob dydd” yn agos i'w cartrefi drwy weithgareddau syml. Gallwn ddatblygu perthynas newydd â'r byd naturiol drwy sylwi ar natur, a chanfuwyd bod gwneud hynny'n dod â manteision mewn iechyd meddwl.

Darllenwch ein Hadroddiad Natur llawn.